Mae Sara Meyrick a Zoe Proctor yn sôn am ddarparu chwarae awyr agored anstrwythuredig yn eu grŵp cymunedol awyr agored Wild Tots yn Sir Fynwy.

Chwarae gwyllt, sy'n annog plant ac oedolion i fod yn egnïol yn yr awyr agored ym mhob tywydd ac ym mhob tymor, sydd wrth wraidd ein hethos yn Wild Tots.

Rydyn ni'n canolbwyntio ar ddechrau'n ifanc, gan integreiddio'r gwahanol genedlaethau i’n hethos awyr agored, anstrwythuredig. Mae Wild Tots yn ymfalchïo mewn llenwi cae â mamau, tadau, neiniau, teidiau, nanis, modrybedd, ewythrod, plant bach, brodyr a chwiorydd hŷn, babanod a bwmps! 

Does dim canlyniadau na thema i'r sesiynau ac mae hynny’n creu cyfleoedd di-ben-draw ar gyfer chwarae anstrwythuredig, dan arweiniad y plentyn, i archwilio a darganfod yr amgylchedd naturiol. Yn hytrach na theganau traddodiadol mae gennym gydrannau ac mae ymweliad â gwerthwr sgrap lleol wedi ysgogi hwyl diderfyn, dyfeisgarwch, cydweithredu a datrys problemau gan y plant a'r oedolion fel ei gilydd.

Mae cyfrifoldeb rhieni yn hollbwysig. Ond ein hethos yn Wild Tots yw bod pawb yn helpu ei gilydd ac yn rhannu gyfrifoldeb ar y cyd. Mae'r oedolion a'r plant i gyd yn bwrw iddi i wneud y sesiynau yn rhwydd ac yn groesawus i bawb sy'n cymryd rhan. 

Yn Wild Tots, credwn mewn darparu profiad awyr agored cadarnhaol ar gyfer plant ac oedolion ac rydyn ni’n arddel y dywediad enwog 'does dim tywydd gwael, dim ond dillad gwael' gan geisio helpu plant ac oedolion a rhoi gwybodaeth iddynt am sut i wisgo'n addas ar gyfer y tywydd. Mae Wild Tots yn mynd ati'n ymarferol i annog a hyrwyddo pa mor bwysig ydyw bod plant ac oedolion yn deall eu diogelwch yn hyderus gyda chymorth a chefnogaeth cyfoedion ac Arweinydd Gwyllt os bydd angen.

Mae llwyddiant y model wedi ein hysbrydoli i sefydlu menter gymdeithasol er mwyn galluogi eraill (e.e. rhieni, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai) i greu eu grwpiau Wild Tots eu hunain a fydd yn parhau â'n hethos o fod yn yr awyr agored, yn anstrwythuredig, yn fforddiadwy ac yn gynhwysol.

'Cawson ni ddwy awr bleserus iawn, a digon prin, yn gwylio ein plant yn chwarae yn eich cegin fwd yn Wild Tots. Roedd hon yn garreg filltir bwysig iawn i ni ... yn y tair blynedd a hanner ers geni Noah, dydyn ni erioed wedi'i weld wedi ymlacio gymaint, yn canolbwyntio gymaint ac wedi ymgolli mewn gweithgaredd am gyfnod mor hir.  A'r syndod mawr i ni oedd gweld ymateb ein merch 11 oed i'r amgylchedd hefyd ... Roedd hi wedi dwlu arno lawn cymaint â'i brawd ac roedd gweld y ddau ohonyn nhw’n mwynhau chwarae gyda'i gilydd am gyhyd yn bleser pur ac yn brofiad cwbl newydd i ni!'
- Teulu Noah

Darganfod mwy am Wildtots