Mae plant o bob cwr o Gaerdydd yn mynnu eu hawl i chwarae! Mae cyfleoedd chwarae ychwanegol yn cael eu darparu ar draws y brifddinas fel rhan o’r rhaglen Dinas Gyfeillgar at Blant (CFC). 

Gweithiodd aelodau o’r Bwrdd Cynghori Plant a Phobl Ifanc gyda Swyddogion y Cyngor i ymgeisio am grant oddi wrth Lywodraeth Cymru i brynu offer ar gyfer Parc Dros Dro. 

Mae’r parc yn cynnwys amrywiol gemau ac offer chwarae yn ogystal â chadeiriau plygu, seddi ffa a 100 metr sgwâr o laswellt gwneud. 

Mae’r rhaglen Dinas Gyfeillgar at Blant yn dwyn UNICEF y DU ynghyd â Chyngor Caerdydd a’u partneriaid i helpu i wneud y ddinas yn le ble mae pob plentyn, yn cynnwys y rhai mwyaf bregus, yn teimlo’n ddiogel, ac yn cael eu clywed a’u meithrin. 

Mae Caerdydd yn un o chwech o ddinasoedd yn y DU sy’n chwarae rhan weithredol yn rhaglen fyd- eang UNICEF. 

Mae’r Parc Dros Dro wedi ei ddefnyddio trwy gydol yr haf gan gynnwys mewn digwyddiadau cymunedol, Cwpan y Byd Pêl-droed y Digartref ac i ddathlu Diwrnod Chwarae. Yn ystod misoedd y gaeaf bwriedir defnyddio’r offer dan do mewn canolfannau cymunedol a neuaddau ysgolion. 

Yn ogystal â’r Parc Unnos, mae’r rhaglen Dinas Gyfeillgar at Blant wedi dwyn partneriaid ynghyd i alluogi trigolion lleol i ymgeisio i gau eu strydoedd am ddwy awr y mis er mwyn caniatáu i blant chwarae’r tu allan. Cymerodd pum stryd ran mewn prosiect peilot ac mae hwn bellach yn cael ei gyflwyno mewn mwy o strydoedd ledled y brifddinas. 

Meddai Rose Melhuish (17), Cadeirydd y Bwrdd Cynghori: 

‘Ry’ ni’n deall pa mor bwysig yw chwarae ac roeddem am annog mwy o blant i chwarae a threulio amser gyda’u teulu a’u ffrindiau. ’Does gan bawb ddim mannau gwyrdd yn eu cymuned ac mae rhai teuluoedd yn methu fforddio mynd i ganolfan chwarae dan do, felly ein hateb ni oedd creu Parc Unnos.’ 

Dywedodd Lee Patterson, Cydlynydd Rhaglen Dinas Gyfeillgar at Blant Caerdydd: 

‘Yn ystod ein cyfnod ymgynghori, dywedodd y plant wrthym eu bod eisiau mwy o gyfleoedd i chwarae a hefyd i dreulio amser gyda’u teuluoedd. Mae’r parc yn hynod o boblogaidd pan gaiff ei ddefnyddio ar draws y ddinas. Mae gwasanaethau a sefydliadau’n gallu hurio’r parc i ddarparu cyfleoedd chwarae ychwanegol, ymgysylltu â thrigolion a hyrwyddo hawliau plant yn ehangach’.