Mae Gwasanaethau Chwarae ac Egwyl Fer Torfaen yn darparu egwyl fer (seibiant) i deuluoedd cymhleth ar draws y bwrdeistref trwy glybiau chwarae cymunedol, prosiectau sy’n gysylltiedig ag ysgolion, sesiynau chwarae therapiwtig a chynlluniau chwarae gwyliau haf a hanner tymor.

Mae agwedd partneriaeth aml-asiantaethol yn galluogi Gwasanaethau Chwarae ac Egwyl Fer Torfaen i gefnogi dros 200 o blant a phobl ifanc sydd ag anghenion sy’n amrywio o fân-anghenion ychwanegol i anghenion meddygol cymhleth ac anableddau dwys, i fynychu darpariaeth chwarae cymunedol. Trwy weithio mewn partneriaeth â gweithwyr iechyd proffesiynol, maent yn gallu cynnig darpariaeth chwarae rheolaidd i blant a phobl ifanc sydd angen nyrs i’w bwydo a rhoi moddion iddynt. Yn ogystal, trwy weithio â ffisiotherapyddion caiff trefniadau dyddiol arferol eu cynnal trwy gydol gwyliau’r ysgol.

Mae proses atgyfeirio drwyadl yn sicrhau bod anghenion unigol penodol pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu dynodi. Yna trefnir hyfforddiant priodol er mwyn sicrhau bod gweithwyr yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau cywir i ddarparu’r lefel angenrheidiol o gefnogaeth, sy’n cynnwys hyfforddiant mewn gofal personol a bwydo yn ogystal â hyfforddiant sy’n ymwneud â moddion ar gyfer anhwylderau fel epilepsi a’r clefyd siwgwr.

Mae cefnogi plant a phobl ifanc ag anableddau i fynychu darpariaeth chwarae cymunedol o fudd i’r plentyn yn ogystal â’r teulu cyfan. Bydd y plant a’r bobl ifanc yn elwa o gael amgylchedd chwarae cynhwysol sy’n amrywiol a chyfoethog, sy’n caniatáu cyfleoedd sy’n hybu iechyd a lles yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer gwthio ffiniau ac archwilio risg, sy’n annog dysg a datblygiad cymdeithasol. Mae llawer o’r cyfleoedd hefyd yn meithrin annibyniaeth a hunan-barch plant ac yn eu hannog i ddatblygu sgiliau sylfaenol byw yn annibynnol.

Mae lefelau integreiddio cynyddol o fewn darpariaeth chwarae cymunedol wedi helpu hefydi herio a chwalu’r stigma sy’n gysylltiedig ag anableddau. Mae darpariaeth chwarae integredig yn caniatáu i blant a phobl ifanc chwarae a chymdeithasu â’u cyfoedion heb anabledd.

Bu ennill cefnogaeth ac ymddiriedaeth rhieni a gofalwyr yn rhan annatod o’r broses integreiddio. Mae rhieni a gofalwyr yn pwysleisio pa mor allweddol yw’r ddarpariaeth chwarae er mwyn caniatáu seibiant iddynt a’u galluogi i dreulio amser allweddol gyda’u plant eraill. Ffurfiwyd fforwm rhieni / gofalwyr yn 2011 i alluogi rhieni a gofalwyr i rannu eu teimladau a chefnogi natur cynaliadwy darpariaeth chwarae cynhwysol yn Nhorfaen.

‘Fi yw mam Benjamin Stevenson sydd â syndrom Down ag Awtistiaeth. Mae Benjamin yn 11 mlwydd oed ac wedi bod yn mwynhau buddiannau darpariaeth chwarae cynhwysol ers cryn amser bellach ... Rwy’n gwerthfawrogi’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu a’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig i Ben i’w mwynhau mewn amgylchedd diogel gyda chefnogaeth staff sydd wir yn malio ac sy’n frwdfrydig ynghylch yr hyn y maent yn ei wneud. Mae gan Benjamin anghenion cymhleth ond mae’n gallu mwynhau yr un pethau â phlant eraill o’r un oedran yn y digwyddiadau “Wedi Nos” a’r “Cynllun Chwarae” gan gymysgu â phlant ar lefelau datblygiadol gwahanol a chael ei ddatblygu trwy wneud hynny, trwy wylio a chopïo eu symudiadau. Mae’r gwasanaeth yma nid yn unig yn wych ar gyfer Benjamin, mae hefyd yn cynnig seibiant i mi, sy’n amser gwerthfawr’.
- Alexandra Hills