Mae Tŷ Pawb, yn Wrecsam, yn adnodd diwylliannol cymunedol, sy’n dwyn y celfyddydau a marchnadoedd ynghyd yn yr un adeilad. Cynhaliodd Tŷ Pawb arddangosfa Gwaith-Chwarae ble trawsnewidiwyd yr oriel yn dirwedd chwarae ryngweithiol. 

Edrychodd yr arddangosfa’n fanylach ar sut y mae meysydd chwarae antur Wrecsam wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau plant lleol a’u teuluoedd. Roedd yn cynnwys maes chwarae antur yn llawn rhannau rhydd a ddyluniwyd gan weithwyr chwarae Wrecsam mewn partneriaeth â Ludicology a’r artist Morag Colquhoun, gwaith celf gweithredol ar ffurf ceirt gwthio gan Gareth Griffith ac archif ddogfennol sylweddol. 

Archie, sy’n bum mlwydd oed, ac a aeth i’r arddangosfa nifer o weithiau, sy’n dweud wrthym am ei brofiadau yno. 

Dwi wedi bod yn chwarae yn Arddangosfa Tŷ Pawb. Dyma’r arddangosfa orau imi fynd iddi erioed! Dwi’n meddwl ei bod hi’n dda iawn ac roedd llwyth o bethau grêt i’w gwneud yno. 

Roeddwn i’n hoffi neidio ar y crash mat, mynd yn y ceir bach a gwthio fy mrawd yn un hefyd. Roedd y go-cart wedi ei wneud o ddarnau o jync. Pan oeddwn i’n ei wthio, fe aeth yn gyflym iawn ac fe wnes i ei ollwng ac fe aeth crash yn erbyn y wal! 

Fe gafon ni greu pethau pan oedden ni yno. Roeddwn i’n hoffi adeiladu tai cardbord. Roedden ni’n gallu mynd i mewn iddyn nhw achos ein bod wedi torri drysau ynddyn nhw, ond roedd tu mewn fy un i’n dywyll iawn felly roedd rhaid imi dorri cwpwl o ffenestri ynddo fo hefyd. 

Roedd yna ffrâm ddringo bren gyda den fach gudd ac roedd tiwbiau cerddorol ynddi hi a phan wnes i drio creu cerddoriaeth efo nhw doedden nhw ddim yn gweithio. Ond ges i hyd i ffon fach yn cuddio yn y tywod a phan wnes i daro’r tiwbiau fe wnaethon nhw sŵ n ‘bom-bom-bom-bom’. 

Roedd llwyth o dywod ar y llawr. Oedd, llwyth! Fe wnes i adeiladu cestyll tywod efo tyllau yn mynd o danno. Ac roedd rhannau oedd yn uchel oddi ar y llawr. Yn uchel iawn o’r llawr! Roedd pethau pren yno, palets mae nhw’n eu galw nhw. Fe wnaethon nhw bentwr mawr ohonyn nhw ac fe wnaethon nhw ramp bren ac fe wnaethon nhw gysylltu peth pren iddo fo ac fe aethon nhw ‘bwmp-bwmp-bwmp’ i’r top. Ac yna, pan oedden ni’n cerdded ar hyd y darn ble alli di gerdded, roedd yn mynd yn uwch ac yn uwch ond heb iti sylwi. Felly, pan oeddwn i’n barod i neidio y tro cyntaf ddwedes i ‘Wow! Dwi isie gwneud hyn!’ ac yna fe neidiais i ffwrdd a dwi’n meddwl imi fynd tin-dros-ben a glanio ar fy nhraed. Dwi ddim yn siŵr os wnes i, ond ges i hwyl yn rhoi tro arni! 

Dwi’n gobeithio y daw un arall eto. Arddangosfa arall debyg ond ddim yr un fath i gyd, gyda gwahanol fframiau dringo a dens a llefydd i guddio.