Mae Plentyndod Chwareus yn ymgyrch gan Chwarae Cymru.  

Mae Chwarae Cymru wedi ymrwymo i warchod eich gwybodaeth bersonol. Byddwn bob amser yn cadw’ch gwybodaeth yn ddiogel, dim ond cyn hired ag sydd ei angen a bydd ond yn cael ei ddefnyddio at y diben y byddwn yn ei gasglu. Bydd Chwarae Cymru yn prosesu gwybodaeth bersonol yn gyfreithlon bob amser a byddwn yn deg a thryloyw yn y modd y gwnawn hyn. 

Mae ein Polisi Preifatrwydd yn dweud wrthych sut y bydd Chwarae Cymru, fel ‘rheolydd data’, yn casglu a storio eich gwybodaeth, pam ein bod ei angen a beth fyddwn yn ei wneud ag o.

Fyddwn ni fyth yn gwerthu na’n rhannu eich gwybodaeth gyda chwmnïau marchnata.

Pwy ydyn ni?

Chwarae Cymru yw’r elusen genedlaethol dros chwarae plant yng Nghymru – ac rydym yn eiriol dros ac amddiffyn hawl plant i chwarae. Mae Chwarae Cymru’n elusen gofrestredig (1068926) ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant (3507258).

Chwarae Cymru, Tŷ Parc, Heol y Brodyr Llwydion, Caerdydd, CF10 3AF

029 20486050

[email protected]

Pa wybodaeth ydyn ni ei angen?

Fyddwn ni fyth yn casglu mwy o wybodaeth na’r angen at y diben y byddwch yn ei ddarparu.

Fel arfer, byddwn ond yn casglu gwybodaeth bersonol sylfaenol all gynnwys eich enw a chyfeiriad e-bost. Mae’r wybodaeth yma’n sicrhau y gallwn gyflawni ein rôl fel mudiad elusennol cenedlaethol trwy eich hysbysu’n rheolaidd am chwarae plant.

Weithiau, mae’n bosibl y byddwn yn dweud y tynnir lluniau cyffredinol mewn digwyddiad neu efallai y gofynnwn am ganiatâd i dynnu neu ddefnyddio lluniau penodol ohonoch chi neu eich plant i hyrwyddo ein gwaith neu ein mentrau.

Sut fyddwn ni’n prosesu eich gwybodaeth bersonol?

Efallai y byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol oherwydd eich bod wedi cydsynio i hynny, neu oherwydd bod gennym reswm dilys i wneud hynny sydd ddim yn amharu ar eich hawliau.

Pan fyddwn yn rhannu gwybodaeth ar gyhoeddiadau, blogiau a newyddion, byddwn yn prosesu eich gwybodaeth er mwyn:

  • Darparu gwybodaeth ichi ynghylch chwarae plant.
  • Gallwch dynnu eich cydsyniad yn ôl unrhyw bryd trwy glicio ar y ddolen ‘datdanysgrifio’ wrth droed yr e-bost neu trwy gysylltu â ni.

Pan fyddwch yn cwblhau arolwg, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth er mwyn:

  • Coladu canlyniadau o arolwg - bydd unrhyw sylwadau a chanfyddiadau’n aros yn ddienw ond mae’n bosibl y caiff y rhain eu rhannu’n genedlaethol neu eu cyhoeddi mewn adroddiadau. Caiff y wybodaeth yma ei brosesu at ddibenion dilys i wella’r gwasanaethau a ddarperir gan Chwarae Cymru. Pan wneir hyn, fe ddefnyddiwn Survey Monkey i gasglu eich ymatebion. Mae Survey Monkey yn prosesu ei wybodaeth yn yr UE ac UDA. Pan fydd yn trosglwyddo’r wybodaeth allan o’r UE ac i UDA, mae Survey Monkey wedi ei ardystio gan Darian Preifatrwydd yr UE-UDA. Mae’r Darian Preifatrwydd yma’n ei lle i warchod eich gwybodaeth os caiff ei anfon y tu allan i’r UE. Gallwch ddarllen polisi preifatrwyddSurvey Monkey yma. Ceir gwybodaeth am Darian Preifatrwydd yr UE-UDA ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Beth fyddwn ni’n ei wneud gyda’ch gwybodaeth?

Caiff eich gwybodaeth ei brosesu yn swyddfa Chwarae Cymru yng Nghaerdydd, a’i gadw ar weinydd diogel.  Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth yn y modd yr ydych wedi cydsynio iddo. Er enghraifft, os ydych wedi gofyn i dderbyn gwybodaeth am ddigwyddiadau, fyddwn ni ond yn anfon gwybodaeth am ddigwyddiadau atoch.

  • Microsoft: Rydym yn defnyddio meddalwedd cyfrifiadura cwmwl i wneud ein gwaith, a ddarperir gan Microsoft. Prosesir y wybodaeth yn y DU. Gallwch glicio ymai weld ym mha ganolfannau gwybodaeth.
  • Mailchimp: Rydym yn defnyddio Mailchimp i anfon ein gwybodaeth atoch ac unrhyw farchnata uniongyrchol. Mae hyn yn cynnwys ein e-fwletinau, a gwybodaeth am gyhoeddiadau, digwyddiadau, ymgynghoriadau ac arolygon. Mae pencadlys Mailchimp yn UDA, ac mae wedi ei ardystio gan Darian Preifatrwydd yr UE-UDA, sydd wedi ei dylunio i warchod eich gwybodaeth os ydych yn byw yn yr UE ac os caiff eich gwybodaeth ei anfon i UDA. Gallwch ddarllen polisi preifatrwydd Mailchimp yma. Ceir gwybodaeth am Darian Preifatrwydd yr UE-UDA ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Pa fath o wybodaeth fyddwn ni’n ei anfon?

Mae Chwarae Cymru’n cynnig ystod eang o wasanaethau a gwybodaeth a, cyn belled â’n bod wedi derbyn eich cydsyniad, gallwn ddarparu gwybodaeth am y canlynol ichi:

  • Cyhoeddiadau, fel awgrymiadau anhygoel a chanllawiau ‘Sut i …’
  • Erthyglau blog
  • Cynnwys newydd.

Am ba hyd fyddwn ni’n cadw eich gwybodaeth?

Fyddwn ni fyth yn cadw eich gwybodaeth am gyfnod hirach na’r angen at y diben y’i darparwyd. Os ydych wedi cydsynio i dderbyn gwybodaeth am gyhoeddiadau neu newyddion trwy e-bost, byddwn yn cadw’r wybodaeth yna tan ichi ddweud wrthym nad ydych am dderbyn gwybodaeth bellach. Bydd pob e-bost yn cynnwys dolen ‘datdanysgrifio’.

Fyddwn ni’n rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw un arall?

Ni fydd Chwarae Cymru’n rhannu eich gwybodaeth gyda thrydydd partïon oni bai bod gofyn cyfreithiol inni wneud hynny neu ein bod yn derbyn eich cydsyniad i wneud hynny, unai pan fyddwn yn ei gasglu neu wedi hynny. Fydd Chwarae Cymru fyth yn gwerthu na rhannu eich gwybodaeth gyda chwmnïau marchnata allanol.

Plant

  • Weithiau, bydd Chwarae Cymru’n tynnu lluniau llonydd, yn ffilmio / creu tapiau sain o blant er mwyn hyrwyddo hawl y plentyn i chwarae, ac i hybu cyfleoedd chwarae yng Nghymru mewn fformatau’n cynnwys gwefannau, print, digidol a chyfryngau cymdeithasol Chwarae Cymru.
  • Caiff unrhyw wybodaeth bersonol a gyflwynir i roi cydsyniad i ddefnyddio unrhyw luniau llonydd neu glipiau ffilm, ei storio’n ddiogel ac ond ei ddefnyddio at ddiben darparu caniatâd.
  • Gallwch ofyn i Chwarae Cymru stopio defnyddio lluniau llonydd neu glipiau ffilm o’ch plentyn ar unrhyw adeg. O ganlyniad, ni ddefnyddir y rhain ar wefannau neu mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol ond mae’n bosibl y byddant yn dal i ymddangos mewn cyhoeddiadau sydd wedi eu cyhoeddi eisoes.

Gwenfannau

Mae’n bosibl y bydd eich data ar gael i’n gwe-ddarparwr (Raising IT) i’n galluogi ni a nhw i drosglwyddo eu gwasanaethau i ni, cynnal gwaith ymchwil a dadansoddi i ddemograffeg, diddordebau ac ymddygiad ein defnyddwyr a’n cefnogwyr er mwyn ein helpu i ennill gwell dealltwriaeth ohonynt i’n galluogi i wella ein gwasanaethau. Efallai y bydd hyn yn cynnwys cysylltu data a dderbyniwn oddi wrthych chi ar y wefan gyda data sydd ar gael o ffynonellau eraill. Fydd eich data personol adnabyddadwy ond yn cael ei ddefnyddio ble fo angen ar gyfer y dadansoddi angenrheidiol, a ble y bernir nad yw eich buddiannau o ran preifatrwydd yn gwrthbwyso eu buddiannau dilys o ran datblygu gwasanaethau newydd ar ein cyfer. Bydd hyn yn ein helpu ni a hwythau i wella’r wefan yn barhaus yn ogystal â’ch profiad chi ohono. Yn achos y gweithgarwch yma, bydd y canlynol yn gymwys:

  • Bydd eich data ar gael i’n gwe-ddarparwr
  • Mae’n bosibl y bydd y data ar gael iddyn nhw yn cynnwys unrhyw elfennau o’r data a gasglwn, fel y disgrifiwyd uchod
  • Ni fydd ein gwe-ddarparwr yn trosglwyddo eich data i unrhyw drydedd blaid, nac yn trosglwyddo eich data y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop
  • Byddant yn storio eich data am gyfnod o hyd at saith mlynedd
  • Nid yw’r prosesu hyn yn effeithio ar eich hawliau o dan adran Cwcis y polisi preifatrwydd hwn.

Os byddwch yn darparu gwybodaeth bersonol trwy ffurflen neu ymholiad ar-lein byddwn ond yn prosesu’r wybodaeth yma at y diben y gwnaethoch ei ddarparu.

Mae ein gwefan yn cynnwys dolennau i wefannau eraill nad ydym yn eu rheoli. Allwn ni ddim bod yn gyfrifol am arferion preifatrwydd unrhyw wefannau sydd ddim dan ein rheolaeth ni ac nid ydym yn cymeradwyo unrhyw un o’r gwefannau hyn, eu gwasanaethau na’u cynnyrch a ddisgrifir neu a gynigir ar safweoedd o’r fath. Byddem yn eich cynghori i ddarllen Polisïau Preifatrwydd y gwefannau hyn cyn eu defnyddio.

Cwcis

Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis. Mae cwcis yn ffeiliau testun bychain a osodir ar eich dyfais pan fyddwch yn ymweld â, ac yn defnyddio gwefan, er enghraifft pan fyddwch yn defnyddio’r fasged siopa neu’n nodi eich dewis o iaith. I ddysgu mwy am gwcis, yn cynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi eu gosod a sut i’w rheoli a’u dileu, ymwelwch â www.aboutcookies.org

Mae ein gwefan yn defnyddio Google Analytics i adolygu ymarferoldeb ein safwe a defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth dienw ynghylch sut y mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan, yn cynnwys y nifer o ymwelwyr â’r wefan, o ble daeth yr ymwelwyr hyn a’r tudalennau y maent yn edrych arnynt. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i greu adroddiadau ac i’n helpu i wella’r wefan. Nid yw Google Analytics yn storio unrhyw wybodaeth bersonol am unrhyw un o ddefnyddwyr y wefan.

Y Cyfryngau Cymdeithasol

Nid yw Chwarae Cymru’n casglu, storio nac yn paru llysenwau â gwybodaeth bersonol, oni bai eich bod wedi cydsynio i hyn. Er enghraifft, efallai eich bod wedi dewis derbyn gwybodaeth trwy’r cyfryngau cymdeithasol, wedi cynnwys llysenw Twitter gyda’ch manylion personol neu wedi dewis ein dilyn.

Gall unrhyw sylwadau neu negeseuon cyfryngau cymdeithasol yr anfonwch atom gael eu rhannu neu eu hail-drydar yn gyhoeddus (e.e. trwy Facebook / Twitter).

Nid yw Chwarae Cymru’n gyfrifol am bolisïau preifatrwydd y platfformau hyn a byddem yn eich cynghori i ddarllen Polisïau Preifatrwydd platfformau cyfryngau cymdeithasol cyn ichi eu defnyddio:

Polisi Preifatrwydd Twitter

Polisi Preifatrwydd Facebook

Rhoddion

Os rhoddwch rodd ariannol i Chwarae Cymru, byddwn ond yn prosesu eich gwybodaeth bersonol er mwyn gweinyddu eich rhodd. Ni fyddwn yn cysylltu â chi oni bai eich bod wedi gofyn inni wneud hynny a fyddwn ni fyth yn rhannu na gwerthu eich gwybodaeth bersonol na gwybodaeth am eich rhodd.

Beth yw eich hawliau?

O dan y ddeddf diogelu data mae gennych nifer o wahanol hawliau’n ymwneud â’n defnydd o’ch gwybodaeth bersonol ac rydym wedi amlinellu crynodeb fer o’r rhain isod - am eglurhad llawn o’r hawliau hyn ymwelwch âgwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

  • Eich hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth
  • Eich hawl i gywiro gwybodaeth bersonol
  • Eich hawl i gael eich anghofio
  • Eich hawl i gludadwyedd gwybodaeth
  • Eich hawl i wrthwynebu
  • Eich hawl i gyfyngu ar brosesu
  • Eich hawl i dynnu cydsyniad yn ôl

I dynnu eich cydsyniad yn ôl, a fyddech cystal â ‘datdanysgrifio’ i’r e-bost marchnata nad ydych am ei dderbyn mwyach trwy glicio ar y ddolen ar waelod yr e-bost. Neu gallwch e-bostio, ffonio neu bostio neges yn nodi eich bod yn tynnu eich cydsyniad yn ôl at:

Chwarae Cymru, Tŷ Parc, Heol y Brodyr Llwydion, Caerdydd, CF10 3AF

029 20486050 [email protected]

Pwyntiau cyffredinol am eich hawliau

Gallwch wneud cais inni arfer unrhyw un o’r hawliau a grynhoir uchod. Bydd Chwarae Cymru’n ymateb i’ch cais o fewn un mis. Efallai y bydd gan Chwarae Cymru hawl i wrthod cydymffurfio â’ch cais ac, os mai dyma’r achos, fe gysylltwn â chi o fewn un mis i egluro ein rhesymau.

Caiff ein Polisi Preifatrwydd ei adolygu a’i ddiweddaru’n rheolaidd.

Adolygwyd ddiwethaf ym mis Awst 2018.