Mae Ardal Chwarae Nyth yr Hebog yn rhan o Goed Moel Famau ym Mryniau Clwyd ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AONB) Dyffryn Dyfrdwy. Ers blynyddoedd lawer, mae’r safle wedi bod yn gyrchfan poblogaidd i gerddwyr a beicwyr mynydd oherwydd ei leoliad godidog a’i rwydwaith da o lwybrau.

Yn 2013, rhoddodd Cyfoeth Naturiol Cymru wahoddiad i Chwarae Cymru ddod i gyfarfod safle i drafod opsiynau posibl ar gyfer creu man chwarae a oedd yn annog mwy o deuluoedd â phlant ifanc i ymweld â’r safle i brofi’r coetir a’i fwynhau.

Datblygwyd y syniadau cychwynnol o’r cyfarfod hwn i greu brîff dylunio, ac yn dilyn hynny cynhaliwyd ymarferiad tendro. Brîff syml oedd gan Cyfoeth Naturiol Cymru: dylunio a chreu man chwarae a oedd yn cydweddu â’r adnoddau naturiol ar y safle, ac yn gwneud defnydd da ohonynt, gan gynnwys nant, coetir brodorol a phlanhigfa, a llwybr cerdded byr cylchol.

Rhannwyd y cynllun ar gyfer y man chwarae gyda’r gymuned leol i sicrhau cefnogaeth leol i’r prosiect. Dyfarnwyd arian cyfatebol ar gyfer y prosiect gan Cadwyn Clwyd Cyfyngedig, asiantaeth datblygu gwledig, i gydnabod y manteision a ddeuai i’r economi dwristiaeth leol yn sgîl y prosiect.

Cyn bod modd cychwyn ar unrhyw waith, roedd angen caniatâd cynllunio ar gyfer rhai elfennau o’r man chwarae, a gwnaethpwyd gais i Gyngor Sir Ddinbych. Er i rai pryderon gael eu mynegi, yn bennaf ynghylch effeithiau posibl y man chwarae ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ymdriniwyd yn ddigonol â’r rhain gan reolwr safle Cyfoeth Naturiol Cymru, a rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y prosiect.

Mae’r strwythurau chwarae yn cynnwys strwythur tŵr unigryw ar ffurf nyth bren anferth, o bren llarwydd Ewrop heb ei drin (rhywogaeth y ceir hyd iddi ar y safle) sy’n cynrychioli nythod yr adar sy’n byw yn y coetir o amgylch, ac yn cynnig llu o gyfleoedd i blant chwarae’n gymdeithasol ac yn gorfforol, yn ogystal â golwg llygad-deryn o ganopi’r coetir. Mae boncyff cedrwydden anferth, y cerfiwyd y pren allan o’i chanol, yn rhoi cyfle i’r plant iau gropian, dringo ac ymgynnull y tu mewn iddi, ac yn weledol, dyma’r mwyaf deniadol o’r strwythurau pren a osodwyd.

Elfen fwyaf unigryw’r nodweddion chwarae yw’r ardal chwarae dŵr, a luniwyd o gerrig naturiol o’r safle. Yno defnyddir dŵr sy’n llifo i mewn o’r nant drwy ei sianelu i’r man chwarae, lle gall plant ryngweithio â’r dŵr drwy ddefnyddio ffyn, cerrig a deunyddiau eraill naturiol y ceir hyd iddynt ar y safle.

Rhoddwyd rhannau o’r man chwarae hwn, gan gynnwys pont gastan sigledig, at ei gilydd fel rhan o weithdy cymunedol. Mae’r prosiect wedi llwyddo yn gyffredinol, ac mae wedi annog mwy o blant i ymweld â’r coetir a mwynhau golygfeydd a seiniau natur trwy chwarae.