Magu plant yn chwareus Chwarae am y nesaf peth i ddim P’un ai ei bod yn wyliau’r ysgol neu mae’r penwythnos ar y ffordd, efallai dy fod yn pendroni am sut y byddi’n diddanu’r plant heb wario ffortiwn. Mae’r dudalen hon yn dangos y gall rhoi rhyddid i blant ddefnyddio'u dychymyg a bod yn greadigol trwy chwarae fod yn fwy gwerthfawr na theganau drud neu wibdeithiau drud. Dewch o hyd i ddigonedd o anturiaethau chwarae pob dydd y gall plant eu mwynhau gartref ac yn ein cymunedau yn rhad neu’n ddi-dâl, dros gyfnod yr haf a’r tu hwnt i hynny. Edrych am ysbrydoliaeth? Gwylia ein ffilm fer newydd sy’n cynnwys plant ar draws Cymru, i nodi Diwrnod Chwarae 2023. Mae Diwrnod Chwarae eleni yn canolbwyntio ar ‘Chwarae am y nesaf peth i ddim – gwneud pob diwrnod yn antur’. Mae’r ffilm yn dangos syniadau chwarae syml sy’n dangos nad oes angen gweithgareddau drud, teganau costus, na theithiau i fannau pell yr haf yma, wrth i blant ledled Cymru dderbyn blwch o eitemau cartref pob dydd i ysbrydoli chwarae. Gan ddefnyddio eu creadigrwydd greddfol ac ymdeimlad o hwyl, bydd y plant yn creu eu chwarae eu hunain, heb gyfranogiad oedolyn. Rhowch gynnig arni! Rho ryddid i dy blant archwilio chwarae yn eu ffordd eu hunain yr haf yma. Defnyddia’r ffilm fel ysbrydoliaeth, gyda rhai o’r eitemau cartref pob dydd canlynol – neu beth bynnag arall sydd gen ti wrth law: Careiau esgidiau Menig rwber Tiwbiau rholiau toiled Tâp masgio Pinnau ysgrifennu Blwch wyau Cynfas gwely Llwyau pren Tiwbiau cardbord mwy Cregyn Ffyn Cerrig neu greigiau bychan Moch coed Darnau o gardbord Darnau o bapur o wahanol feintiau Potiau bach neu sosbenni Ffoil alwminiwm Pegiau dillad Gwlân cotwm Cymryd rhan Rhanna dy syniadau chwarae am y nesaf peth i ddim ac anturiaethau bob dydd dy deulu gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio'r hashnod #DiwrnodChwarae2023.