Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd mai mis Chwefror 2020 oedd y Chwefror gwlypaf ar gofnod, gyda heddluoedd mewn rhannau o Gymru’n cyhoeddi digwyddiadau difrifol wrth iddyn nhw a’r gwasanaethau brys eraill weithio i amddiffyn eiddo a thrigolion. Effeithiwyd cannoedd o gartrefi gan lifogydd wrth i ddŵr redeg oddi ar gaeau a bryniau gorlawn ar hyd hanner gorllewinol y DU.

Nathania Minard, Prif Swyddog Chwarae, Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CCGC), sy’n dweud wrthym am brosiect partneriaeth wnaeth gefnogi plant oedd wedi dioddef o ganlyniad i’r llifogydd.

Yn ystod hanner tymor Chwefror cafodd nifer o deuluoedd eu heffeithio gan lifogydd ar hyd a lled Conwy ac, yn benodol, yn nhref Llanrwst. Cydweithiodd ein Tîm Datblygu Chwarae gyda Chartrefi Conwy, landlord cymdeithasol cofrestredig, i ddarparu sesiynau chwarae mynediad agored taro heibio ar draws chwe ardal yn y sir i gefnogi plant a theuluoedd a effeithiwyd gan y llifogydd.

Cafodd y sesiynau chwarae, wedi eu staffio gan y Tîm Datblygu Chwarae a Thîm Cynnwys y Gymuned Cartrefi Conwy, eu cynnal mewn mannau cymunedol fel parciau a gallai’r plant fynychu fel y mynnant. Hysbysebwyd y sesiynau ar y cyfryngau cymdeithasol ac anogwyd teuluoedd i alw heibio a dod draw i chwarae.

Darparodd y staff adnoddau ac aeth y plant ati i adeiladu cuddfannau, chwarae yn y gegin fwd a gyda rhannau rhydd, a choginio ar y tân. Roedd y sesiynau’n cynnwys gweithgareddau celf a chrefft a chwaraeon hefyd.

Er mwyn cefnogi teuluoedd ymhellach mewn ardaloedd
a effeithiwyd, ac er mwyn adeiladu ar weithdai datblygu chwarae eraill oedd wedi eu cynnal yn Llanrwst, cynhaliodd Tîm Cymorth i Deuluoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Thîm Datblygu Chwarae CCGC ddigwyddiad chwarae dinas gardbord yn y ganolfan deuluoedd leol. Rhoddodd y digwyddiad amser a lle i’r plant chwarae ac adennill mwynhad yn y byd trwy chwarae, tra gallai rhieni dderbyn cymorth allweddol arall. Roedd y ganolfan deuluoedd yn darparu cymorth fel bwyd, dillad a chyngor ariannol, i deuluoedd oedd wedi colli eu cartrefi neu oedd wedi eu heffeithio gan y llifogydd.

Nod y sesiynau chwarae oedd darparu cyfleoedd chwarae cyfoethog ar gyfer plant yn ystod cyfnod o argyfwng ac ansicrwydd. Fe lwyddom i helpu’r plant i ddod o hyd i fannau i chwarae yn eu hardal leol, gan gynnig ystod eang o gyfleoedd chwarae cyfoethog oedd yn hwyl a newydd i rai ohonyn nhw.

Roedd y rhieni’n ddiolchgar, gan ddweud bod eu meddyliau’n dawel bod eu plant yn hapus a diogel tra eu bod nhw’n cael cyfle i dderbyn cymorth. Er bod gweithwyr teuluoedd a gweithwyr cymdeithasol yn y digwyddiad
ac er bod llawer o waith arall yn digwydd, arhosodd prif ffocws y digwyddiad ar blant yn cael amser a lle i chwarae. Roedd teuluoedd yn chwarae gyda’i gilydd ac fe aethant ac adnoddau adref gyda nhw i barhau gyda’r hwyl! Roedd nifer o focsys cardbord i’w gweld yn cerdded i lawr y ffordd ar ddiwedd y digwyddiad!