Mae ardal ddiffaith ar dir Ysgol Gynradd Gymunedol Maerdy wedi ei adfywio gan gynllun sensitif i ateb anghenion yr ysgol yn ogystal â’r gymuned leol.

Mae’r gymuned leol yn cael defnyddio’r safle ar ôl amser ysgol, ar y penwythnos ac yn ystod y gwyliau, gan hybu gwir ymdeimlad o ddefnydd cymunedol. Mae’r ardal yn ganolog i gymunedau dau begwn y cwm, ac fe’i clustnodwyd fel y man gorau i ddatblygu cyfleusterau chwarae newydd gan aelodau’r gymuned leol.

Cyflwynodd cymdeithas dai leol, RCT Homes, gyllid ychwanegol i Maerdy Regeneration (grŵp cymunedol lleol) i ariannu ardal ar y safle, na fyddai’r gyllideb wedi ei ganiatáu fel arall. Defnyddiwyd yr ariannu yma i gynnwys ardal chwarae pêl ar hen fuarth segur, gan sicrhau cyfleusterau ar gyfer plant hŷn. Trwy gwblhau hyfforddiant, cefnogwyd yr ysgol i fod yn fwy cyfforddus wrth gynnal a chadw a rheoli’r man chwarae y tu hwnt i oes y prosiect.