Magu plant yn chwareus Am fagu plant yn chwareus Croeso i fagu plant yn chwareus Mae’r adran hon o’r wefan ar gyfer rhieni a gofalwyr. Mae’n cynnwys gwybodaeth a syniadau i dy helpu i: Ddeall mwy am chwarae plant, a pham ei fod yn bwysig ar gyfer eu hiechyd a’u hapusrwydd Dysgu sut y galli gefnogi chwarae dy blentyn Cael hyd i syniadau ymarferol am roi’r hyn y mae dy blentyn ei angen i gael y gorau o’u chwarae - amser, lle, cefnogaeth a phethau i chwarae gyda nhw. Tudalennau yn yr adran hon Pam fod chwarae’n bwysig – pam fod chwarae’n rhan bwysig o blentyndod Am chwarae – sut y mae plant yn chwarae, a syniadau am bethau i’w gwneud gartref ac yn dy gymuned Lle i fynd – cynghorion defnyddiol am chwarae’n agos i adref ac ymhellach i ffwrdd, beth bynnag fo’r tywydd Canllawiau ‘Sut i ...’ – cyngor a gwybodaeth am wahanol fathau o chwarae Awgrymiadau Anhygoel – cyngor a gwybodaeth ar gefnogi chwarae dy blentyn Efaillai y doi ar draws rhywfaint o wahanol eiriau am chwarae. Dyma beth mae’r rhain yn ei olygu: Gwerth chwarae Amrywiaeth ac ansawdd y cyfleoedd chwarae y mae man penodol yn eu cynnig. Gall hefyd ddisgrifio’r hyn y mae man penodol neu ddarn o offer yn ei gynnig i blant i’w helpu i ddatblygu sut y maen nhw’n chwarae. Er enghraifft, bydd lleoliad sy’n gyfoethog o ran gwerth chwarae yn rhoi cyfleoedd i blant fwynhau amrywiaeth o brofiadau chwarae - yn gorfforol, cymdeithasol a synhwyraidd. Man chwarae penodedig Lle sydd wedi ei greu’n arbennig i blant chwarae ynddo. Gall gynnwys offer maes chwarae traddodiadol fel siglenni a llithrennau, neu nodweddion mwy naturiol fel tywod a boncyffion. Man chwaraedwy Lle ble y gall plant chwarae, ond sydd heb ei ddylunio’n benodol i blant chwarae ynddo.