Syniadau ar gyfer chwarae o gwmpas dy gartref Dy gartref yw lle chwarae cyntaf a mwyaf cyfarwydd dy blentyn. Pan mae’n ifanc, bydd dy blentyn fel arfer yn mwynhau ailadrodd yr un mathau o chwarae. Mae hyn yn bwysig ar gyfer eu datblygiad, ac mae’n hawdd ei wneud gartref. Mae chwarae gartref yn helpu dy blentyn deimlo’n ddiogel, yn saff a hapus. Os ydych chi wedi symud yn ddiweddar neu oddi cartref, gall cael pethau cyfarwydd i chwarae gyda nhw helpu dy blentyn i setlo i lawr. Dyma ambell syniad chwarae hwyliog, hawdd y gall dy blentyn eu mwynhau gartref. Amser bath Mae amser bath neu gawod yn amser perffaith i chwarae gyda dŵr. Mae sblasio a chwarae gyda swigod yn hwyl. Galli wneud amser bath hyd yn oed yn fwy o hwyl gyda: phethau o’r gegin – fel rhidyllau, lletwadau a chwpanau pethau sy’n arnofio a phethau sy’n suddo caneuon gwellt ar gyfer chwythu swigod. Mae chwarae yn y dŵr yn gyfle gwych hefyd i dy blentyn archwilio ei synhwyrau. Er enghraifft: arogli sebon neu olew bath teimlo gwead sbyngau a swigod teimlo cynhesrwydd y dŵr ar eu croen teimlo’n glyd wedi lapio mewn tywel mawr gwrando ar ddiferion a sblashis. Dylet wastad oruchwylio plant ifanc pan maen nhw yn y bath. Tasgau o amgylch y cartref Gall dy blentyn gael llawer o hwyl yn ymuno mewn tasgau o gwmpas y tŷ. Yn aml, bydd dy blentyn am wneud pethau y mae wedi dy weld di’n eu gwneud. Efallai y bydd angen iti fod yn hynod o amyneddgar, gan y gallai tasgau tŷ arferol gymryd mwy o amser neu fod ychydig yn flerach pan fydd dy blentyn yn dy ‘helpu’. Galli ystyried tasgau o gwmpas y tŷ fel cyfleoedd ar gyfer dysgu chwareus - er enghraifft: golchi’r llestri (gwna’n siŵr dy fod yn tynnu allan unrhyw eitemau miniog a phethau allai dorri os yw dy blentyn yn ifanc) golchi’r ffenestri gyda bwcedi o ddŵr sebonog sgubo neu hwfro’r llawr sgleinio pethau fel handlenni drysau neu sosbannau. Mae rhai plant wrth eu bodd gydag elfen gystadleuol - fel ‘pwy all sgleinio fwyaf o lwyau mewn pum munud?’ Ond efallai y bydd hyn yn rhoi straen ar blant eraill. Galli farnu os yw dy blentyn yn mwynhau rhywfaint o gystadleuaeth. Amser bwyd Mae amser bwyd yn gyfle gwych i dreulio amser gyda’ch gilydd. Bydd rhoi sgriniau a ffonau i’r naill ochr yn ystod amser bwyd yn dy helpu di a dy blentyn i fwynhau eich bwyd a chanolbwyntio ar eich amser gyda’ch gilydd. Mae amser bwyd yn wych ar gyfer: sgwrsio am y diwrnod cynllunio eich antur chwarae nesaf gyda’ch gilydd dweud straeon cychwyn sgyrsiau am destunau diddorol neu ddoniol chwarae gemau syml fel ‘Rwy’n gweld gyda’m llygad bach i’ neu gêm gofio fel ‘Fe es i i’r siop a phrynu...’ (dylai pob person, yn ei dro, ychwanegu rhywbeth at restr o’r hyn a brynwyd ac ailadrodd yr hyn ddywedodd y bobl o’u blaen, gan geisio cofio popeth wrth i’r rhestr dyfu’n hirach a hirach). Deffro’n gynnar Dyma rai syniadau allai helpu pan fydd dy blentyn yn deffro’n gynnar yn y bore yn barod i chwarae. Gosod ardal glyd gyda charthen bicnic a rhywfaint o deganau meddal neu dedi bêrs fel y gall chwarae’n dawel gerllaw. Gadael i dy blentyn swatio yn y gwely gyda thi. Os nad wyt ti’n barod i chwarae eto, cofia ddweud. Cadw’r golau’n isel. Ceisia osgoi dyfeisiau a sgriniau. Cadw bentwr o’ch hoff lyfrau wrth law i’w darllen gyda’ch gilydd. Ewch allan am dro ben bore. Galli gael hyd i fwy o syniadau ar gyfer chwarae o amgylch y tŷ ar ein tudalennau am guddfannau a chwarae poitshlyd.