Amdanom ni Amser i Chwarae ‘Byddai’n well gen i fod yn chwarae’ – ein arolwg newydd yn canfod bod plant yng Nghymru eisiau chwarae mwy ond bod cael neb i chwarae gyda nhw, TikTok a mannau chwarae difflach yn gallu eu hatal Gyda bron i 70% o blant yn dweud bod chwarae’n gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus a chyffrous, rydym yn galw ar rieni, gofalwyr a chymunedau ledled Cymru i roi mwy o Amser i Chwarae i blant – gartref ac allan yn eu cymdogaethau gyda ffrindiau Pam mwy o Amser i Chwarae? Fe wnaethom ofyn i 500 o rieni gyda phlant dan 15 oed a 500 o blant 5 i 15 oed yng Nghymru beth oedd eu barn am chwarae a dyma beth ddywedon nhw wrthym ni: Dywedodd y plant a holwyd yr hoffent chwarae mwy (byddai dros 60% yn hoffi chwarae mwy na phum gwaith yr wythnos), ond eto mae dros 30% yn dweud bod sgrolio trwy TikTok a gwylio fideos ar YouTube yn eu hatal rhag gwneud hynny. Mae 91% o rieni yn dweud bod chwarae’n cael effaith positif ar iechyd meddwl eu plant, ac mae bron i 70% o blant yn dweud bod chwarae’n gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus a chyffrous. Ond eto, mae dros 20% o blant yn dweud bod cael neb i chwarae gyda nhw’n eu hatal rhag chwarae. Mae 90% o blant yn dweud eu bod yn gyffredinol hapus gyda’r mannau ble maent yn chwarae, o chwarae’r tu allan ym myd natur i chwarae ar y stryd neu ar y palmant, i chwarae mewn canolfan chwarae fel clwb ar ôl ysgol, neu ar fuarth chwarae’r ysgol, i barc sglefrfyrddio, neu gartref. Fodd bynnag, mae 10% yn dweud allan nhw ddim gwneud unrhyw un o’r pethau yr hoffent eu gwneud yn y mannau hyn. Beth oedd gan y plant i’w ddweud Mae plant wedi dweud wrthym sut mae chwarae’n gwneud iddynt deimlo, fel Aneurin York o’r Barri, sy’n 10 oed, ddywedodd: ‘Dwi wrth fy modd yn chwarae achos mae’n fy helpu yn fy mywyd gyda stwff ac mae’n fy helpu i wybod sut dwi’n teimlo. Mae hefyd yn dangos i bobl sut i fynegi eu teimladau heb orfod eu cuddio oddi wrth unrhyw un’. Wrth siarad am pam y byddai’n well ganddi fod yn chwarae, dywedodd Summer Pritchard, sy’n 13 oed, o Dreherbert: ‘Mae chwarae’n gwneud imi deimlo’n rhydd. Ac os nad oedd gen i chwarae i droi ato, fe fyddwn i yn fy ystafell yn gwylio TikTok ar fy ffôn’. Cymryd rhan Rydym yn awyddus i annog a chefnogi rhieni a gofalwyr i ysbrydoli ac ysgogi mwy o gyfleoedd i’w plant chwarae – dros yr haf a thu hwnt – er gwaethaf rhwystrau cymdeithasol. Am y diweddaraf am Amser i Chwarae – ac i glywed mwy am yr hyn sydd gan blant i’w ddweud am bwysigrwydd chwarae yn eu bywydau – dilynwch ein Facebook ac Instagram neu’r hashnod #AmserIChwarae.