Am Plentyndod Chwareus Mae Plentyndod Chwareus yn ymgyrch sy’n anelu i helpu rhieni a gofalwyr i roi: amser lle cefnogaeth i blant chwarae gartref ac yn eu cymuned leol. Mae cael cyfle i chwarae’n rhan bwysig o blentyndod hapus ac iach i bob plentyn. Mae chwarae’n hwyl ac mae wastad wedi bod yn rhan o sut y bydd plant yn dysgu a thyfu. Dyma un o elfennau pwysicaf eu bywydau – mae plant yn gwerthfawrogi cael amser, lle a chefnogaeth i chwarae adref ac yn eu cymuned leol. Mae plant yn dweud wrthym eu bod eisiau mwy o gyfleoedd i chwarae’r tu allan gyda’u ffrindiau. Mae chwarae’n rhan allweddol o blentyndod iach a hapus. Fel oedolion, ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod hyn yn digwydd. Magu plant yn chwareus Mae rhieni a gofalwyr yn gefnogwyr pwysig o chwarae i blant – beth bynnag yw eu hoedran. Waeth os ydi dy blentyn yn chwarae pi-po, yn neidio mewn pyllau dŵr, neu’n dechrau bod eisiau mentro allan ar eu pen eu hunain gyda ffrindiau, mae adran Magu Plant yn Chwareus y wefan yn llawn awgrymiadau anhygoel, syniadau da a chynghorion defnyddiol am chwarae i bob plentyn. Cymunedau chwareus Mae gan grwpiau fel cymdeithasau trigolion, Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon mewn ysgolion a chynghorau tref a chymuned i gyd ran bwysig i’w chwarae. Gall grwpiau fel hyn gefnogi drwy drefnu digwyddiadau awyr agored neu ymgyrchu am ardaloedd chwarae plant a thrwy helpu i hybu newid mewn agweddau ac arferion. Mae adran Cymunedau Chwareus y wefan yn cynnwys toreth o wybodaeth a chynghorion i helpu grwpiau ystyried chwarae plant yn eu cymuned. Crëwyd Plentyndod Chwareus i gefnogi: rhieni i roi cyfleoedd i’w plant chwarae rhieni, fel eu bod yn teimlo’n hyderus ynghylch gadael i’w plant chwarae’r tu allan yn y gymuned datblygu cymunedau chwareus ar gyfer plant ar hyd a lled Cymru dealltwriaeth gyffredin o bwysigrwydd chwarae ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau gan bob oedolyn ledled Cymru. Mae Plentyndod Chwareus yn ymgyrch gan Chwarae Cymru.