Mae chwarae, hongian o gwmpas, ymlacio a chymdeithasu’n rhan bwysig o fywydau arddegwyr ac yn cyfrannu’n sylweddol at eu hiechyd meddwl.

Mae cwrdd a hongian o gwmpas gyda ffrindiau yn eu hardal leol yn rhoi cyfle i arddegwyr gael hwyl, profi annibyniaeth a datblygu sgiliau cymdeithasol. Mae’n gyfle i leddfu straen ac ymlacio o bwysau fel gwaith ysgol. Ond, rydym yn gwybod bod plant ac arddegwyr yn profi llai a llai o gyfleoedd i chwarae a chymdeithasu.

Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Chwarae Cymru, Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru: 2022, wedi canfod bod llai o blant ac arddegwyr yn profi digon o amser, lle a chaniatâd i chwarae’r tu allan na thair blynedd yn ôl. Roedd ofnau rhieni am ddiogelwch ac agweddau negyddol oedolion ymysg y rhesymau am y dirywiad hwn.

Fel oedolion, mae llawer o ffyrdd y gallwn gefnogi ac annog arddegwyr i chwarae, hongian o gwmpas a chael hwyl fel y gallant fwynhau’r buddiannau iechyd meddwl a chymdeithasol y mae hyn yn ei gynnig.

Sut y gallwn gefnogi chwarae arddegwyr

Mae ein gwefan yn cynnwys llawer o adnoddau i helpu rhieni a gofalwyr i gefnogi arddegwyr i chwarae, hongian o gwmpas, ymlacio a chael hwyl. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys: 

Ymunwch yn y sgwrs 

Cynhelir Diwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid ar 19 Medi bob blwyddyn. Mae’n gyfle i ddysgu ac i gynyddu ymwybyddiaeth am faterion iechyd meddwl arddegwyr, ac i ddangos ein cefnogaeth i bobl ifanc. 

Ymunwch yn y sgwrs ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid eleni gan ddefnyddio’r hashnod #YMHD ar y cyfryngau cymdeithasol.