Cymunedau chwareus Am gymunedau chwareus Croeso i Gymunedau Chwareus Mae’r adran hon o’n gwefan wedi ei hanelu at: Gynghorau cymuned Grwpiau cymunedol Cynlluniau Gwarchod Cymdogaeth Rhieni, neiniau, teidiau, mam-guod, tad-cuod a gofalwyr sydd am helpu i wella ardaloedd chwarae neu fannau i chwarae yn eu cymdogaeth Gweithwyr proffesiynol sy’n gweithiogyda phlant, plant yn eu harddegau a theuluoedd, gan roi cyngor ac arweiniad iddyn nhw Cymdeithasau tenantiaid a thrigolion. Mae Cymunedau Chwareus yn darparu cyngor a syniadau ar gyfer pobl sydd eisiau: Deall chwarae plant Edrych ar syniadau am sut i gefnogi chwarae plant Gweld enghreifftiau o gymunedau chwareus ar hyd a lled Cymru Darllen gwaith ymchwil am yr hyn sy’n gwneud cymuned yn un chwareus Dysgu ble i fynd am fwy o gefnogaeth, yn cynnwys cyngor ar faterion cyfreithiol. Tudalennau yn yr adran hon Cynyddu ymwybyddiaeth am chwarae – ymgyrchu dros chwarae yn dy gymuned Cynllunio dy ardal chwarae – cyngor ymarferol ar gyfer datblygu ardal chwarae Canllawiau sut i… – cyngor ymarferol i wneud dy gymuned yn chwareus Ymgeisio am gyllid – awgrymiadau anhygoel ar gyfer ymgeisio am gyllid ar gyfer chwarae Enghreifftiau yng Nghymru – prosiectau chwareus o wahanol ardaloedd Cyfeiriadur gwasanaethau chwarae – pwy i gysylltu â nhw yn dy ardal Efallai y doi ar draws rhywfaint o eiriau gwahanol am chwarae. Dyma maen nhw’n ei olygu: Ardaloedd chwarae A elwir hefyd yn feysydd chwarae neu’n ardaloedd chwarae gydag offer sefydlog. Mae’n bosibl y bydd y rhain yn cynnwys offer chwarae fel siglenni, llithrennau a fframiau dringo. Mannau i chwarae Unrhyw le ble bydd plant yn chwarae ond sydd heb eu dylunio i blant eu defnyddio. Bydd rhai mewn trefi (strydoedd, parciau, rampiau sgrialu, mannau agored) a bydd eraill mewn ardaloedd naturiol (traethau, coedwigoedd, afonydd).