Amdanom ni Am Chwarae Cymru Chwarae Cymru yw’r elusen genedlaethol dros chwarae plant yng Nghymru. Fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn cynyddu ymwybyddiaeth am angen - a hawl - pob plentyn i chwarae. Rydym yn hyrwyddo arfer dda ar bob lefel o’r broses wneud penderfyniadau, ym mhobman ble y gallai plant chwarae. Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad i gefnogi pawb sydd â diddordeb mewn - neu sy’n gyfrifol am - wneud yn siŵr bod plant yn gallu chwarae. Rydym yn anelu i wneud Cymru’n wlad sy’n cydnabod ac yn darparu’n dda ar gyfer anghenion chwarae pob plentyn. Ein gweledigaeth – Dyfodol ble caiff chwarae ei barchu am ei bwysigrwydd allweddol i blentyndod. Ein cennad – Eiriol dros Gymru chwarae-gyfeillgar a phledio achos hawl plant i chwarae. Dysgu mwy am Chwarae Cymru