Agorodd cylch chwarae Shirenewton, Caerdydd ym mis Chwefror 2006 ac ers hynny mae wedi datblygu i fod yn ddarpariaeth gofal plant gwerthfawr sy’n darparu cyfleoedd chwarae ar gyfer plant dwy i bedair oed ar safle Sipsiwn a Theithwyr.

Mae pwysigrwydd chwarae’n y gymuned hon yn uchel iawn, ac mae’r gefnogaeth y gall teuluoedd gael mynediad iddo trwy’r ddarpariaeth yma’n hynod o werthfawr wrth ateb anghenion y lleiafrif ethnig bregus yma.

Mae cael profiadau blynyddoedd cynnar o safon yn cynorthwyo plant i setlo i lawr mewn amgylcheddau newydd. Bydd hyn yn cynorthwyo gyda’r cyfnod pontio i’r ysgol, gan ganiatáu i’r plant ddeall y ‘rheolau’ cymdeithasol pan fyddant y tu allan i’r uned deuluol ac i lunio perthnasau â’u cyfoedion ac oedolion newydd.

Mae’r cylch chwarae’n darparu cyfleoedd i’r plant fwynhau profiadau heriol yn ymchwilio a darganfod drostynt eu hunain, a thrwy hynny dyfu’n ddysgwyr annibynnol. Mae’r sefyllfa’n helpu plant i gynyddu eu hyder a’u hunan-barch; caiff y chwarae ei gyfarwyddo’n bersonol ac annogir y plant i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau a ysgogir yn reddfol. Caiff y plant sy’n mynychu eu hannog i gymryd rhan ac i ddatblygu awydd i ddysgu.

Oherwydd natur cartrefi Sipsiwn a Theithwyr mae lle i storio’n brin ac nid oes modd bob amser i deuluoedd ddarparu ystod eang o adnoddau i gefnogi chwarae’r plant. Mae gallu cael mynediad i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar o safon o fudd mawr iawn i blant.

Bu datblygu ardal awyr agored ar gyfer y cylch chwarae’n fuddiol dros ben – mae aelodau o’r staff wedi arsylwi’r effaith cadarnhaol y mae’n ei gael ar ymddygiad y plant yn y lleoliad. Mae’r cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu a’r cynnydd mewn chwarae corfforol wedi lleihau achosion o ymddygiad negyddol yn fawr, yn arbennig ymysg y bechgyn.

Mae cegin fwdlyd, buarth adeiladu a man cyfeillgar (cuddfan) yn ymddangos fel rhan o’r ardal awyr agored yn rheolaidd. Mae adnoddau adeiladu a deunyddiau byd bychan, yn ogystal â phaent, glud a defnyddiau ar gael hefyd yn yr amgylchedd dan do a’r awyr agored fel ei gilydd. Caiff y plant eu hannog i fod yn ddysgwyr gweithredol trwy eu chwarae, gyda chefnogaeth y staff.

Cyflogir gweithwyr proffesiynol brwdfrydig, cymwysedig sy’n llawn arddeliad ac maent yn hanfodol er mwyn sicrhau bod darpariaeth o safon ar gael yn y lleoliad. Mae aelodau’r staff yn deall yr angen i feithrin a chefnogi anghenion pob plentyn. Caiff pob sesiwn ei gwerthuso ac annogir y staff i fyfyrio ar eu harfer personol ac fe’u cefnogir gyda’u datblygiad proffesiynol personol.