Mae ysgolion ledled Cymru’n gweithio gyda mudiadau chwarae i wella amserau chwarae. Mae mentrau ymyrraeth poblogaidd yn cynnwys darparu rhannau rhydd yn ystod amser chwarae cinio, ynghyd â chefnogaeth i oruchwylwyr amser cinio i’w cynorthwyo.

Agorodd Ysgol Tŷ Ffynnon bron i bum mlynedd yn ôl yn dilyn cyfuno Ysgol Fabanod Shotton ac Ysgol Iau Taliesin ar Lannau Dyfrdwy. Yn ystod Bywyd Ysgol, cynhadledd a gynhaliwyd i hyrwyddo chwarae mewn ysgolion yn Sir y Fflint, siaradodd Thomas a Michalina, a dau o’u hathrawon, am chwarae dros amser cinio yn eu hysgol.

Soniodd Mr. Shepherd, Dirprwy Bennaeth yr ysgol bod y staff wedi sylwi ar broblemau gydag amser chwarae, ‘Yn benodol, roedd diffyg gweithgareddau’n ystod amser cinio, oedd yn golygu bod y plant yn ffraeo’n hawdd. Arweiniodd hyn at weld staff yn treulio llawer o amser yn ymchwilio i ddigwyddiadau, a hynny’n rheolaidd, oedd yn effeithio ar amser addysgu a dysgu. Roedd yr ardal chwarae awyr agored yn ardal lom heb fawr o ddim i’r plant ei wneud. Roedd y gofod yn annog rhedeg oedd yn golygu bod llawer o blant yn taro ar draws ei gilydd, arweiniodd at weld nifer fawr o ffurflenni damwain yn cael eu llenwi.’

Yn ystod blwyddyn ysgol 2016/17 cyflwynwyd menter o’r enw Playful Futures, ar gyfer chwarae amser cinio. Mae hwn yn brosiect ble darperir deunyddiau chwarae rhannau rhydd mewn sied benodol i alluogi disgyblion i’w defnyddio’n ystod amser chwarae er mwyn cael profiadau chwarae cyfoethocach. Rhoddwyd hyfforddiant a chefnogaeth i’r staff i gyd ar sut i weithredu’r prosiect.

Penodir y plant hŷn yn Llysgenhadon Chwarae, sy’n helpu i dynnu’r deunyddiau chwarae allan a’u cadw wedyn. Gan weithio gydag ymgynghorydd, cyflwynodd yr ysgol raglen i greu profiadau chwarae gwell ar gyfer plant dros amser chwarae.

Eglurodd Michalina, ‘Cyn i’r sied chwarae gael ei hadeiladu, roedd y rhan fwyaf o’r plant yn meddwl bod amser chwarae ddim yn dda iawn ac y gallai fod yn well. Ond rŵan bod y sied chwarae gennym ni, mae bron pawb yn meddwl bod amser chwarae’n dda’. Siaradodd Thomas am rai o’r pethau yr oedd plant eraill wedi eu dweud am amser chwarae:

‘Dwi’n edrych ymlaen at amser cinio rŵan.’

‘Rydan ni’n cael creu cuddfannau a gweld pwy sy wedi dylunio’r un orau!’

‘Mae gen i lwyth o ffrindiau i chwarae efo nhw rŵan.’

Gyda’i gilydd, dynododd yr ysgol amryw o fuddiannau o well cyfleoedd yn ystod amser chwarae. Nododd Mr. Shepherd, yn benodol, bod ‘llai o faterion o ran ymddygiad, gyda phedwar deg y cant yn llai o ffurflenni damweiniau’n cael eu defnyddio bob wythnos’.