Hygyrchedd Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwefan sy’n hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf posibl, waeth beth fo’u gallu neu’r dechnoleg sydd ar gael iddynt. Rydym yn gweithio’n weithredol i gynyddu hygyrchedd a defnyddioldeb ein gwefan ac wrth wneud hyn rydym yn glynu at lawer o’r safonau a’r canllawiau sydd ar gael. Mae’r wefan hon yn ymdrechu i gydymffurfio â lefel A-Ddwbwl Canllawiau Hygyrchedd Gwe-gynnwys 2.0 (Web Content Accessibility Guidelines 2.0) y World Wide Web Consortium W3C. Mae’r canllawiau hyn yn egluro sut i wneud gwe-gynnwys yn fwy hygyrch ar gyfer pobl ag anableddau. Bydd cydymffurfio â’r canllawiau hyn yn helpu i wneud y we yn haws i’w ddefnyddio i bawb. Adeiladwyd y safle hwn gan ddefnyddio côd sy’n cydymffurfio â safonau W3C ar gyfer HTML a CSS. Mae’r safle’n ymddangos yn gywir mewn porwyr cyfredol ac mae’n defnyddio côd HTML/CSS sy’n cydymffurfio â safonau’n golygu y bydd unrhyw borwyr yn y dyfodol yn ymddangos yn gywir hefyd. Tra ein bod yn ymdrechu i lynu at y canllawiau a’r safonau cyffredin ar gyfer hygyrchedd a defnyddioldeb, nid yw’n bosibl bob amser i wneud hynny ym mhob adran o’r wefan. Rydym yn chwilio’n barhaus am ddatrysiadau wnaiff dod â phob adran o’r safwe i fyny i’r un lefel o hygyrchedd cyffredinol. Yn y cyfamser, os cewch chi unrhyw anawsterau wrth gael mynediad i’n gwefan, gofiwch gysylltu gyda ni. Ble fo modd, defnyddiwch y porwr diweddaraf Trwy ddefnyddio’r porwr diweddaraf (y rhaglen y byddwch yn ei defnyddio i gysylltu â’r rhyngrwyd) bydd gennych fynediad i gyfres llawer cyfoethocach o opsiynau i’ch cynorthwyo wrth ichi lywio eich ffordd o amgylch y safwe hwn. Rhestrir y porwyr cyffredin y byddem yn eu hargymell isod, ynghyd â dolenni ar sut i osod pob un ohonynt: Firefox Chrome Safari (MAC yn unig) Internet explorer Edge Unwaith ichi ei osod, bydd pob porwr yn cynnig ei ddetholiad ei hun o opsiynau hygyrchedd ac mae’n bosibl y bydd yn caniatáu opsiynau pellach trwy ddefnyddio ategion. Am fwy o fanylion, gweler tudalen Hygyrchedd pob un: Firefox Chrome Safari (Mac yn unig) Internet Explorer Edge Opsiynau ar ein safwe ni Arddull Amgen Dewiswch ddolen isod i newid golwg y safwe. Unwaith ichi ddewis opsiwn penodol, bydd y safwe’n ymddangos yn yr arddull hwnnw am hyd at 30 diwrnod neu tan ichi ddewis opsiwn gwahanol. Fersiwn du ar wyn Fersiwn gwyn ar ddu Arddull amgen Ailosod i'r ardull safonol Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod y safwe’n edrych yn iawn yn yr arddulliau gwahanol yma ond oherwydd natur newidiol barhaus y safwe a’i gynnwys, efallai na fydd hyn yn bosibl bob amser. Os dewch chi ar draws rhywbeth sydd ddim yn edrych yn hollol gywir cofiwch roi gwybod inni Llwybrau Byr Bysellfwrdd / Bysell Mynediad Bydd gwahanol borwyr yn defnyddio gwahanol drawiadau i danio llwybr byr bysell mynediad, fel y dangosir isod: Porwr Tudalen Llwybrau byr Windows Firefox neu Chrome Hafan Shift + Alt + 1 Mynd heibio’r ddewislen llywio ar y safwe Shift + Alt + 2 Internet Explorer or Edge Hafan Alt + 1 Mynd heibio’r ddewislen llywio ar y safwe Alt + 2 SYLWER: Ar gyfer Internet Explorerbydd angen ichi wasgu Enter wedi defnyddio’r llwybr byr Safari Hafan Ctrl + Alt + 1 Mynd heibio’r ddewislen llywio ar y safwe Ctrl + Alt + 2 MacOS Safari Hafan Command + Alt + 1 Mynd heibio’r ddewislen llywio ar y safwe Command + Alt + 2 Firefox neu Chrome Hafan Command + Shift + 1 Mynd heibio’r ddewislen llywio ar y safwe Command + Shift + 2 Opsiynau yn eich porwr Mae’r mwyafrif o borwyr cyfoes i gyd yn rhannu’r offer hygyrchedd mwyaf cyffredin, dyma restr o nodweddion defnyddiol: Chwiliad CynyddolBydd chwiliad cynyddol yn caniatáu ichi chwilio trwy dudalen we yn raddol am air neu frawddeg benodol ar y dudalen honno. Er mwyn galluogi hyn ar eich porwr, gwasgwch a daliwch fysell ALT ac yna’r llythyren F. Bydd hyn yn agor blwch ble dylid teipio’r gair yr ydych am chwilio amdano. Wrth ichi deipio, caiff pob gair sydd yr un fath eu lliwio ar y dudalen ichi. Gwe-lywio GofodolBydd clicio ar fysell TAB yn golygu y gallwch neidio i bob un o’r eitemau y gallwch ryngweithio â nhw ar unrhyw dudalen. Bydd dal y fysell SHIFT i lawr ac yna clicio ar TAB yn mynd â chi’n ôl i’r eitem flaenorol. Gwe-lywio Lleolnod (Internet explorer a Firefox yn unig)Yn lle defnyddio llygoden i ddethol rhannau o destun ac i symud o gwmpas ar dudalen we, gallwch ddefnyddio bysellau llywio safonol ar eich byselfwrdd: Home, End, Page Up, Page Down a’r bysellau saeth. Mae’r nodwedd yma wedi ei enwi ar ôl y lleolnod, neu’r cyrchwr, fydd yn ymddangos pan fyddwch yn golygu dogfen.I droi’r nodwedd yma ymlaen, gwasgwch y fysell F7 sydd yn rhes uchaf eich bysellfwrdd a dewis os ydych am alluogi’r lleolnod ar y tab yr ydych yn edrych arno neu ar bob un o’ch tabiau.BylchwrBydd gwasgu’r bylchwr ar dudalen we yn symud y dudalen yr ydych yn edrych arni i lawr i’r rhan weladwy nesaf o’r dudalen. Ffontiau testunYn ddibynnol ar eich porwr, gallwch ddiffodd pob ffont ar y safwe ar wahân i’r un sydd rwyddaf i chi ei darllen. Ceir canllawiau yma: Newid Ffont yn Firefox Newid Ffont yn Chrome Newid Ffont yn Safari Newid Ffont yn Internet Explorer Newid Ffont yn Edge Ehangu drychiad Gallwch danio nodwedd chwyddo’r porwr trwy ddefnyddio’r llwybrau byr bysellfwrdd canlynol Chwyddo yn Firefox Chwyddo yn Chrome Chwyddo yn Safari Chwyddo yn Internet Explorer Chwyddo yn Edge Opsiynau ar eich cyfrifiadur Er mwyn chwyddo sgrin y cyfrifiadur yn gyfan gwbl Mae system weithredu Apple Maca Windowsyn cynnwys opsiynau i ehangu drychiad eich sgrin:WindowsApple OS XGwneud i’ch cyfrifiadur ddarllen y safwe’n uchel Mae’r wefan hon wedi ei hadeiladu gan ystyried rhaglenni darllen sgrin. Bydd gan ddewislenni, lluniau a mewnbynnau'r tagiau a’r marciau cywir i gyd-fynd â’ch rhaglen darllen sgrîn benodol. Rydym wedi profi’r wefan gyda’r offer canlynol: Mae NVDA (NonVisual Desktop Access) yn rhaglen darllen sgrîn rhad ac am ddim ar gyfer cyfrifiaduron sy’n defnyddio system weithredu Windows. Gellir lawrlwytho’r fersiwn ddiweddaraf AM DDIM yma (ar y dudalen hon mae’n bosibl y gofynnir ichi am gyfraniad gwirfoddol, os nad ydych am gyfrannu cliciwch ar "skip donation this time") Mae WAVE wedi ei ddatblygu a’i ryddhau fel gwasanaeth cymunedol rhad ac am ddim gan WebAIM. Wedi ei lansio’n wreiddiol yn 2001, mae WAVE wedi ei ddefnyddio i werthuso hygyrchedd miliynau o dudalennau gwe. Darllenwch fwy yma Mae Microsoft Windows Narrator ar gael yn y mwyafrif o fersiynau o systemau gweithredu Mircosoft Windows ac mae’n darllen testun a welir ar y sgrin yn uchel ac yn disgrifio digwyddiadau, fel negeseuon gwall, fel y gallwch ddefnyddio eich cyfrifiadur personol heb lun. I ddysgu mwy, ac i’w danio yn eich fersiwn chi, cliciwch yma Rheoli eich cyfrifiadur gyda’ch llais Mae systemau gweithredu Apple Mac a Windows ill dau’n cynnig ffyrdd i reoli eich cyfrifiadur gyda meddalwedd adnabod llais. Mae’r BBC wedi creu canllaw ar sut i danio’r nodwedd adnabod llais ar draws y gwahanol fersiynau ond mae’r gosodiadau’n wahanol eto os ydych yn defnyddio Apple OS X Yosemite. Mae pecynnau meddalwedd adnabod llais annibynnol ar gael hefyd. I grynhoi Rydym wedi ymrwymo i ddarparu mynediad ichi i’n hadnoddau mwyaf gwerthfawr. Os dewch chi ar draws rhywbeth sydd ddim yn edrych yn gywir neu os oes gennych awgrymiadau sut y gallem wella ein gwasanaethau yna cofiwch roi gwybod inni