Yn ystod gwyliau’r ysgol, gall rhieni deimlo dan bwysau i ddiddanu eu plant gyda gweithgareddau costus neu deithiau pell… ond nid oes angen i chwarae a chael hwyl fod yn ddrud. Yn aml, gall y syniadau symlaf roi'r mwynhad a'r rhyddid mwyaf i'ch plentyn a gwneud ei wyliau ysgol yn gofiadwy.

Gan fod ein hymgyrch dros yr haf yn ymwneud â 'Chwarae am y nesaf peth i ddim', rydym wedi casglu ein hoff syniadau chwarae ar gyfer pob tywydd sy'n rhad neu am ddim i blant o bob oed a theuluoedd eu mwynhau.

Chwarae yn yr awyr agored am y nesaf peth i ddim 

P’un a ydych yn byw ger parc gwledig, arfordir neu mewn amgylchedd trefol, mae yna syniadau ar gyfer chwarae yn yr awyr agored sydd at ddant pawb…

  • Helfeydd – o gasglu dail a brigau mewn coedwig, gwylio adar, neu gyfrif ceir o liwiau gwahanol yn eich ardal leol – gall taith gerdded deuluol droi’n her hwyliog ac mae'n ffordd wych o ysgogi plant i dreulio amser yn yr awyr agored.

  • Chwarae â dŵr – brwydr dŵr, llithren ddŵr, rhedeg drwy chwistrellwyr gardd, peintio â brwsh gwlyb/sbwng, gwneud persawr, cegin awyr agored a hyd yn oed golchi’r car… mae plant yn cael eu denu at weithgareddau dŵr sydd hefyd yn wych i'w hoeri nhw ar ddiwrnod poeth o haf.
  • Gemau Olympaidd – mae gwneud cyrsiau rhwystrau a chael rasys gyda ffrindiau yn ffordd wych o gymdeithasu a chadw’n heini. Gallwch ddefnyddio offer chwarae fel cylchoedd hwla a rhaffau sgipio, neu wrthrychau bob dydd fel bocsys cardbord, brwshys neu gadeiriau. 
  • Adeilad cuddfan – gall eitemau'r cartref fel hen flancedi, cadeiriau a rheiliau sychu dillad wneud cuddfan berffaith. Mae archfarchnadoedd a siopau nwyddau metel hefyd yn lleoedd da i gael gafael ar eitemau am ddim fel bocsys cardbord i'ch plentyn ehangu ei guddfan. 

Chwarae dan do

Mae tywydd ac amserlenni prysur yn golygu bod yn rhaid chwarae dan do weithiau, ond mae digonedd o syniadau y gall eich plentyn eu mwynhau gartref. 

  • Creu cerddoriaeth – gall gwrthrychau'r cartref fel sosbenni, tuniau, llwyau pren neu boteli plastig wedi'u llenwi â reis fod yn berffaith ar gyfer dechrau band roc.

  • Llawr lafa – ffordd wych i blant o bob oed gadw’n gorfforol egnïol dan do. Casglwch ynghyd eich clustogau a'ch gobenyddion a gadewch i'ch plentyn ddefnyddio'i ddychymyg wrth hopian, neidio a dringo ei ffordd o amgylch eich cartref. 
  • Cynnal sioe dalent – Coreograffu dawns i hoff gân, dod yn dafleisiwr tedi, perfformio tric hud… gall cynnal sioe dalent fod yn ffordd wych o ryngweithio fel teulu, rhoi hwb i hyder plant a chael hwyl.
  • Gwneud defnydd o eitemau bob dydd – mae gan blant ddychymyg cyfoethog – gall bocs o eitemau bob dydd ddatgloi byd o gyfleoedd chwarae. Gellir troi tiwb papur cegin yn delesgop ar gyfer syllu ar y sêr, a chynfas yn babell. Mae rhoi'r rhyddid i blant chwarae gyda gwrthrychau'r cartref yn ffordd wych o annog eu creadigrwydd… Weithiau y syniadau symlaf yw’r rhai mwyaf hwyliog! Gwyliwch ein fideo Chwarae am y Nesaf Peth i Ddim i gael mwy o ysbrydoliaeth.

 Am lawer mwy o ffyrdd rhad a chwareus o gael hwyl gartref neu yn eich ardal leol, edrychwch ar ein 30 o syniadau chwarae. 

Manteisiwch ar leoedd a gweithgareddau am ddim

Gall meysydd chwarae, parciau a mannau gwyrdd, traethau, camlesi a llwybrau troed gwledig fod yn ffynhonnell gyfoethog o leoedd i chwarae a chwilota dro ar ôl tro.

Mae gwasanaethau cymunedol fel llyfrgelloedd ac amgueddfeydd yn aml yn cynnal digwyddiadau am ddim i blant yn ystod gwyliau ysgol. Mae timau chwarae cymunedol hefyd yn darparu cyfleoedd i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau a gweithdai hwyliog drwy gydol y gwyliau. Edrychwch ar dudalennau gwasanaethau chwarae eich awdurdod lleol am ragor o wybodaeth.