Mae’r wisg ysgol wedi’i smwddio, mae’r esgidiau wedi’u glanhau, mae’r bagiau wedi’u pacio – mae’n amser i blant fynd yn ôl i’r ysgol! 

Mae’n fis Medi, sy’n golygu bod plant ledled Cymru yn mynd yn ôl i’r ysgol ar ôl gwyliau’r haf. Bydd rhai plant yn teimlo’n hapus a chyffrous am fynd yn ôl i’r ysgol i gymdeithasu gyda ffrindiau, dysgu ac wrth gwrs chwarae. Ond, gyda'r newidiadau anochel a ddaw gyda blwyddyn ysgol newydd bydd rhai plant yn teimlo'n bryderus neu'n ofnus am fynd yn ôl.

Chwarae mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant

Dros yr wythnosau nesaf, bydd chwarae gyda ffrindiau yn helpu plant i deimlo’n fwy sefydlog wrth iddynt dreulio fwy o amser yn yr ysgol neu mewn lleoliad gofal plant fel crèche, meithrinfa neu glwb ar ôl ysgol. 

Yn ystod y dydd a phob dydd, dylai plant o bob oedran gael digon o gyfleoedd i chwarae yn yr ysgol neu mewn gofal plant. Chwarae yw’r ffordd fwyaf naturiol a phleserus i blant gadw’n iach a hapus. Mae’n ffordd plant o gefnogi eu hiechyd a’u lles eu hunain, gan eu helpu i reoli eu hemosiynau a gwneud synnwyr o unrhyw sefyllfa.

Chwarae ar ôl ysgol

Mae hefyd yn bwysig i blant gael amser a lle i chwarae ar ôl ysgol neu ofal plant – yn y cartref ac allan yn eu cymuned. Mae chwarae tu allan, gyda ffrindiau, yn allweddol i iechyd a hapusrwydd plant.

Mae chwarae yn ffordd wych i blant i ymlacio a dadflino. Gall chwarae hyd yn oed rhoi cipolwg i rieni ar sut mae’r plant yn teimlo.

Mae gan chwarae bob math o fuddiannau ar gyfer plant – yn gorfforol, meddyliol, emosiynol a chymdeithasol – ond yn bwysicaf oll, mae chwarae’n hwyl!

Darllen mwy am fuddiannau chwarae