Amdanom ni “Pan o’n i dy oed di” Mae ein prosiect newydd, “Pan o’n i dy oed di”, yn anelu i herio rhagdybiaethau am ymddygiad arddegwyr mewn mannau cyhoeddus. Rydym eisiau annog pawb i fod yn fwy goddefgar o’n arddegwyr mewn mannau a rennir, achos, fel mae’n digwydd, dydyn ni ddim mor wahanol a hynny wedi’r cwbwl… Meddyliwch am eich bywyd chi yn eich arddegau. Efallai bod llai o dechnoleg a bod y ffasiwn yn wahanol, ond efallai y cewch eich synnu i sylweddoli pa mor debyg oedd eich profiadau chi i rai plant yn eu harddegau heddiw. Mae arddegwyr o bob cwr o Gymru wedi bod yn rhannu eu profiadau o chwarae a chymdeithasu gyda’u ffrindiau, ac maent yn annog oedolion i feddwl am y tebygrwydd rhyngddynt. Meddai Celyn, 12 oed: “Fydden ni jest yn hoffi i oedolion fod yn iawn gyda’r ffaith ein bod yn y parc pan ydyn ni am fod yno, a gwybod nad ydyn ni’n gwneud dim byd o le. Fel arfer bydd grŵp mawr ohono’ ni yn y diwedd, ac rydyn ni gyd yn hoffi cael hwyl gyda’n gilydd ar ôl ysgol. “Dwi’n siarad gyda fy rhieni am beth oedden nhw’n ei wneud pan oedden nhw fy oed i, a dydi o ddim mor wahanol â hynny! Dwi’n treulio lot o amser yn y parc gyda fy ffrindiau ac eistedd ar y meinciau fel oedden nhw. Ond mae gyda ni ffonau a phethau heddiw, felly rydyn ni’n creu TikToks a defnyddio SnapChat.” Dywedodd Cerys, mam Celyn: “Er ei bod hi’n gallu bod yn anodd gadael i’n plentyn yn ei harddegau fynd allan a chwarae gyda’i ffrindiau heb i ni fod o gwmpas, mae hyn i gyd yn rhan o dyfu i fyny a gadael iddi ddod i adnabod ei hun. Fe dreuliais i lawer o fy arddegau’n cymdeithasu mewn parciau ac ar strydoedd fy mhentref, aros allan yn llawer hwyrach nag oeddwn i fod a smalio fy mod wedi anghofio faint o’r gloch oedd hi, felly rŵan dwi’n dysgu fel rhiant sut i dderbyn bod fy merch yn ei harddegau’r un fath!” Pam ei fod yn bwysig Mae adroddiadau’n dangos bod arddegwyr heddiw’n fwy synhwyrol na chenedlaethau blaenorol, ond er hynny, mae’r mwyafrif o blant yn eu harddegau yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli’n annheg yn y cyfryngau. Mae anhwylderau iechyd meddwl ymysg arddegwyr hefyd yn cynyddu – yn enwedig ers dechrau’r pandemig – felly, mae’n bwysicach nag erioed i bobl ifanc allu chwarae a chymdeithasu yn eu cymunedau gyda’u ffrindiau. Rydym eisiau creu nostalgia a hel atgofion ymysg oedolion yng Nghymru, gan helpu i bontio’r bwlch oedolion ac arddegwyr heddiw, yn enwedig mewn mannau cyhoeddus. Trwy gofio ein harddegau ein hunain, gallwn ddeall yn well a bod yn fwy goddefgar o ymddygiad chwareus arddegwyr heddiw a phob dydd. Cymryd rhan Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf – Facebook ac Instagram. Rhannwch eich atgofion o chwarae yn eich arddegau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #PanOnIDyOedDi.