Sarah Hay sy'n sôn wrthyn ni am wella lle chwarae yn ei chymuned leol yn y Felin Wyllt, Pen-y-bont ar Ogwr.

Prosiect dwy flynedd yw Space Saviours sy'n cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol a'i ddarparu gan bedair cymdeithas dai, yn cynnwys Tai Cymoedd i'r Arfordir (V2C) ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Cynhaliodd prosiect Space Saviours ddigwyddiadau ar gyfer cymunedau lleol i nodi syniadau er mwyn gwella mannau awyr agored lleol a bues i yn un o'r rhain yn 2014.

Es i draw achos mod i'n gwybod bod tipyn go lew o lefydd ar gael yn ein cymuned a allai gael eu datblygu ar gyfer chwarae. Roeddwn i'n awyddus i greu ardal chwarae ddiogel yn y Felin Wyllt a chefais fy ysbrydoli gan weithdy Chwarae Cymru i roi syniad am brosiect at ei gilydd.

Fy syniad gwreiddiol oedd cael gwared â thwmpath pridd presennol, gosod arwyneb diogel nesaf at y parc presennol ac ychwanegu goliau symudol er mwyn i'r plant gael chwarae pêl-droed. Pan sonies i wrth fy mab hynaf am y prosiect, fe gynhyrfodd yn lân a dweud 'Dwyt ti ddim am gael gwared â'n twmp ni, wyt ti?' Doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor bwysig oedd y twmp iddo fe a'i ffrindiau. Dechreuais i wylio plant yn defnyddio'r man a gweld cymaint roedden nhw'n ei werthfawrogi. Dywedais yr hanes wrth Chwarae Cymru ac aethon ni ati, gyda'n gilydd, i gynnal archwiliad chwarae yn yr ardal a gweithio gyda phensaer tirwedd i greu dyluniadau.

Roedd V2C yn hoffi'r dyluniad terfynol a chawson nhw hyd i arian i dalu am welliannau, gan gynnwys ei gwneud yn haws i chwarae ar y twmp. Cyn dechrau, cynhalion ni ddigwyddiad ymgynghori yn ein canolfan gymunedol ac arddangos lluniau o'r dyluniad yn ein clwb ieuenctid. Yn ystod y gwaith adeiladu, doedd rhai oedolion lleol ddim yn hapus a threuliais rywfaint o'm hamser yn eu sicrhau y byddai'r gymuned yn elwa, yn y tymor hir, o'r annibendod roedd y newidiadau wedi'i achosi.

Agorwyd yr ardal chwarae newydd yn Chwefror 2016 â Diwrnod Chwarae. Yn y digwyddiad hwn, gofynnodd pobl pam nad oedd ffens o amgylch y man chwarae 'i gadw'r cŵn allan'. Esbonion ni nad oedd angen ffens am fod y lle yn ddiogel i blant yn barod gan fod dim traffig a bod cynifer o dai yn edrych dros y safle.

Fodd bynnag, sylweddolon ni’n fuan fod baw cŵn yn broblem go iawn. Gyda V2C, penderfynon ni ddechrau ymgyrch gwybodaeth i'r cyhoedd. Bu plant lleol yn dylunio posteri i atgoffa pobl i glirio baw eu cŵn ac aeth V2C ati i brynu a gosod arwyddion awyr agored yn seiliedig ar ddyluniadau'r plant. Cawson ni baent sialc a mynd ati, gyda'r plant, y gwirfoddolwyr a Cadwch Gymru'n Daclus, i farcio'r holl faw cŵn a rhyfeddu o weld cymaint o'r glaswellt wedi'i orchuddio â sialc. Roedd tenantiaid lleol, yn enwedig y perchenogion cŵn, yn arswydo ac yn ffieiddio at y llanast roedd ein plant yn chwarae ynddo.

Mae'r llecyn yn cael ei ddefnyddio'n well nawr ac rydyn ni wedi gwneud defnydd clyfar o'r lle oedd yno.Ac mae gen i fab hapus iawn roddodd sêl bendith i'r dyluniad terfynol oherwydd nad oedden ni wedi difetha'r twmp!