Mae grŵp o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi adfywio gofod awyr agored concrid trist nad oedd yn cael ei ddefnyddio ar gampws y brifysgol a’i drawsnewid yn ofod awyr agored lliwgar ar gyfer chwarae, dysgu ac addysgu. Cododd prosiect ‘Forest of Plinths’ o friff oedd yn galw am gynllun creadigol ar gyfer storio rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant. Fe’i hagorwyd yn swyddogol ar Ddiwrnod Chwarae Ysgol Fyd-eang (1 Chwefror 2017) pan ddaeth plant o dair ysgol gynradd leol ynghyd i sesiwn chwarae a dweud straeon dros amser cinio.

Gwirfoddolodd tîm o fyfyrwyr o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd (CSAD) eu hamser i gwblhau’r prosiect a thrawsnewid y gofod. Bydd y gofod yma o fudd sylweddol i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau Astudiaethau Plentyndod Cynnar (ECS) ac Astudiaethau Addysg Gynradd, gan ei fod yn cynnig gofod ychwanegol ar gyfer cynnal gweithdai gyda myfyrwyr, athrawon, disgyblion ysgol a’r gymuned leol. 

Er mwyn casglu ysbrydoliaeth, a chyfle i ymestyn dysg a phrofiad y myfyrwyr oedd yn rhan o’r prosiect, ymwelodd myfyrwyr o’r CSAD a’r rhaglen ECS â chanolfan adnoddau chwarae i weld rhannau rhydd, yn ogystal ag ysgolion cynradd a meysydd chwarae antur ar draws Cymru i arsylwi chwarae rhannau rhydd ar waith. 

Cafodd y gofod ei ail-ddylunio’n llwyr gan y myfyrwyr ar gyllideb fechan iawn; dyma brosiect gwirioneddol gydweithredol gyda CSE, CSAD, adran ystadau’r brifysgol, gwasanaethau campws, tair ysgol gynradd leol a Chwarae Cymru i gyd yn gweithio gyda’i gilydd. Dyluniwyd yr holl eitemau a geir yn y gofod, fel y cypyrddau creu straeon a’r bocsys chwarae rhannau rhydd, gan y myfyrwyr a’u creu â llaw.

Cyfeiriodd yr Uwch-ddarlithydd Chantelle Haughton at lwyddiant y gofod newydd lliwgar, ‘Ein nod gyda Chwarae a Dysgu Awyr Agored yw cynnig yr amgylchedd delfrydol ar gyfer mwyafu dysg; i archwilio materion, fel gwerth a heriau chwarae a dysgu; i feithrin sgiliau newydd ac, yn y pen draw, i hyn i gyd gael ei wneud trwy weithio gydag arfer bywiog arloesol gan fwyafu ein defnydd o’r awyr agored. Mae’r gofod yma’n caniatáu inni arddangos y gellir cefnogi chwarae hyd yn oed yn y mannau mwyaf ddiffaith. Rydym yn falch i allu darparu cyfleoedd i arddangos arfer dda ar gyfer gwneud y gorau o ofodau bychain, concrid “da i ddim”, i greu amgylcheddau chwarae hudolus.’

Ychwanegodd Alice Croot, myfyrwraig CSAD, a gydlynodd elfen ddylunio’r prosiect a’r gosodiad, ‘Roedd bod yn rhan o’r prosiect cydweithredol cyntaf gyda CSAD a CSE yn gyffrous dros ben. Yn y tîm o saith roedd gwneuthurwr, dylunydd cynnyrch, seramegyddion a darlunwyr. Golygodd cael cyfuniad amrywiol o ymarferwyr y gallem ddysgu oddi wrth ein gilydd ac fe arweiniodd at benderfyniadau creadigol amrywiol. Yn bersonol, fe fu’r prosiect yn drobwynt mawr imi a’r modd yr wy’n gweithio. Ers cwblhau’r prosiect, rwyf wedi ymweld â’r buarth tra mae’n cael ei ddefnyddio gan fyfyrwyr yn ogystal â phlant ysgol gynradd. Mae’r clwtyn concrid yma wedi ei adfywio i greu ardal ddysgu awyr agored greadigol a hwyliog sy’n annog creadigrwydd mewn pobl o bob oed.’