Mae gwirfoddolwyr mewn rhwydwaith o eglwysi ar draws Wrecsam a’r Rhyl yn paratoi a dosbarthu pecynnau cinio trwy gydol gwyliau’r ysgol er mwyn sicrhau bod plant sy’n ymweld â chanolfannau chwarae’n derbyn pryd iach.

Mae’r prosiect yn rhan o ymrwymiad Esgobaeth Llanelwy, mewn partneriaeth â thimau chwarae’r awdurdod lleol, i helpu i fynd i’r afael â newyn yn ystod y gwyliau. Mae’r dosbarthiadau cinio i ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes yn golygu bod plant yn gallu parhau i fynychu darpariaeth chwarae gymunedol sy’n ateb eu hanghenion chwarae. Karen Maurice, Swyddog Cyfathrebiadau Esgobaeth Llanelwy, sy’n dweud mwy wrthym am y prosiect.

‘Fe glywom am drafferthion oedd yn cael eu hachosi gan newyn yn ystod y gwyliau a’r diffyg darpariaeth yng Ngogledd Cymru i helpu i fynd i’r afael â hyn. Wedi clywed am yr angen, roeddem yn teimlo na allem ei anwybyddu - mae’r plant yma a’u teuluoedd yn rhan o’n cymunedau ac roeddem am ddangos iddyn nhw ein bod yn pryderu yn eu cylch.

Gan fod gan y timau chwarae berthynas wych gyda’r plant eisoes, roedd yn bwysig inni weithio mewn partneriaeth gyda nhw. Roedd hi’n hawdd iddyn nhw ddynodi’r plant hynny oedd angen cefnogaeth ychwanegol ac roedd modd iddyn nhw gyfathrebu’n gyda nhw a’u teuluoedd mewn ffyrdd sensitif. Yn ogystal, roedd yn bwysig inni gefnogi’r gweithwyr chwarae gyda’r gwaith gwych y maent yn ei wneud. Mae’r cyfraniad bychan yma’n eu helpu i drosglwyddo eu gwasanaeth a gall sicrhau elfen gyfannol, ychwanegol i’r gwaith y maent yn ei wneud.’

Yn ôl Colin Powell, Rheolwr ar Faes Chwarae Antur Cwm Gwenfro, Wrecsam, mae’r ffaith mai gweithwyr chwarae oedd yn dosbarthu’r pecynnau cinio yn golygu bod pob plentyn yn cael cynnig bwyd. Fodd bynnag, mae’n bosibl targedu’r rheini sydd ei angen fwyaf mewn modd anffurfiol, heb unrhyw stigma cysylltiedig.

Ychwanegodd, ‘Yn sicr dyma un o’r hafau lleiaf trafferthus inni o ran delio gydag ymddygiad heriol. Bydd y rhan fwyaf o deuluoedd yn gwybod, pan fo’u plant bach yn flinedig neu eisiau bwyd y byddant yn anodd ei rheoli ac yn afresymol pan fyddant yn ceisio cyflawni rhywbeth. Gellir dweud yr un peth am blant hŷn a phobl ifanc. Ond, roedd staff y maes chwarae am imi nodi’n benodol mai prin iawn oedd achosion o ymddygiad gwael a bod hyn, yn eu barn hwy, oherwydd bod bwyd ar gael yn ystod y dydd.’