Sian Lile-Pastore o Amgueddfa Cymru sy’n dweud wrthym sut y mae ardal chwarae Yr Iard wedi ei hadnewyddu’n greadigol yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, yng Nghaerdydd er mwyn dwyn chwarae, hanes a chelf ynghyd.

Wrth imi ysgrifennu’r darn yma, mae’n hanner tymor mis Chwefror, ac mae’r ardal chwarae newydd yn llawn plant - maen nhw’n chwarae ar y siglenni, yn dringo’r rhaffau ar y ffrâm ddringo ac yn chwarae yn y tywod. Ond yr hyn yr ydw i wedi mwynhau ei weld fwyaf yw eu bod hefyd jesd yn ei ddefnyddio fel rhywle i fod - yn segura ar y creigiau, neu’n bwyta cinio ar y meinciau a’r ardal dweud straeon o dan goeden fawr.

Fe agorwyd yr ardal chwarae ddiwedd 2017 wedi dwy flynedd o ymchwilio, dylunio ac adeiladu. Fe’i dyluniwyd gan yr artist Nils Norman, gyda chymorth Imogen Higgins a Fern Thomas dwy artist sy’n gweithio yng Nghymru.

Dyluniodd Nils Norman yr ardal chwarae’n ystod ei gyfnod fel artist preswyl yn yr amgueddfa. Rhoddwyd briff iddo ddylunio ardal chwarae unigryw oedd yn creu cysylltiadau gyda’r amgueddfa ynghyd â meithrin chwarae creadigol a bod mor gynaliadwy ac amgylcheddol-gyfeillgar â phosibl. Roeddem yn falch iawn i allu gweithio gyda Nils, sy’n gweithio ar draws disgyblaethau celf gyhoeddus, pensaernïaeth a chynllunio trefol ac sydd â diddordeb hefyd mewn chwarae a mannau chwarae yn ogystal â gofod cyhoeddus.

Gyda chymorth Imogen a Fern, treuliodd Nils amser yn yr amgueddfa’n arsylwi ac yn tynnu lluniau, gan dreulio llawer o amser yn yr archifau ac yn siarad â’r staff. Treuliodd Fern ac Imogen hefyd lawer o amser yn chwilota trwy’r archifau am eitemau diddorol i’w rhannu gyda Nils, yn ogystal â chynnal gweithdai gyda grwpiau o blant o ddwy ysgol leol - sef Ysgol Uwchradd Woodlands ac Ysgol Gynradd Hywel Dda - i ddysgu beth hoffen nhw ei weld mewn ardal chwarae newydd. 

Golygodd y rhaglen breswyl y gallodd dreulio amser yn dod i adnabod y gofod ac ennill dealltwriaeth ddyfnach o’r amgueddfa yn gyffredinol. Fe wnaethom siarad llawer hefyd am sut yr oedd plant yn chwarae eisoes o amgylch y safle - y clytiau yna o laswellt wedi’u treulio ble maent wedi cerdded drosodd a throsodd, a thrafod ffyrdd y gallem annog mwy o chwarae rhydd yn yr amgueddfa.

Wrth gwrs, mae’r ardal chwarae orffenedig i blant chwarae arni a’i mwynhau’n bennaf. Mae’n cynnwys strwythurau chwarae traddodiadol fel siglenni a’r ffrâm ddringo, yn ogystal ag ardaloedd sy’n annog chwarae sy’n fwy creadigol - y boncyff ar lawr i sgrialu drosto a’r creigiau mawr i eistedd arnynt neu i neidio oddi arnynt. Mae’r ardal chwarae’n galluogi plant a theuluoedd i sylwi ar gysylltiadau cynnil rhwng y strwythurau chwarae a’r adeiladau hanesyddol wrth iddynt siglo dan fondo un adeilad, neu lithro i lawr to un arall.

Yr hyn sy’n ei wneud yn wahanol i ardaloedd chwarae eraill yw ei fod hefyd yn waith celf cerfluniol - mae’r strwythurau’n hardd i’r llygad ac mae’n teimlo fel rhan annatod o’r amgueddfa. Mae’r cyfuniad unigryw yma o chwarae, hanes a chelf, yn enwedig dros yr hanner tymor prysur yma, wedi dod ag egni newydd a byrlymus i Sain Ffagan, egni sy’n perthyn i ac sy’n cael ei ledaenu gan y plant ddaw yma ac all hawlio eu gofod eu hunain.