Teithio gyda dy blentyn Mae teithio gyda phlant yn gyffrous ac yn hwyl. Gall fod yn gyfle i archwilio mannau newydd a gwneud pethau newydd gyda’ch gilydd. Ond weithiau, gall teithio achosi llawer o straen. Gall fod yn heriol pan fyddi di a dy blentyn wedi blino, mewn lleoedd newydd, a ddim yn cadw at eich amserlen ddyddiol arferol. Gwneud amser ar gyfer chwarae yw’r ffordd berffaith i leihau straen a’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch taith. Sut y gall chwarae helpu Mae chwarae’n ffordd wych i ti a dy blentyn: gael hwyl gyda’ch gilydd dod i adnabod pobl eraill ymlacio defnyddio rhywfaint o egni archwilio lle newydd. Pethau i roi tro arnyn nhw pan fyddwch yn treulio amser yn rhywle newydd Hola ble mae’r parciau a’r mannau chwarae agosaf. Gofyn i rywun lleol ble mae bryniau, coedydd neu nentydd y gallwch chwarae ynddyn nhw. Ceisia wneud yn siŵr eich bod yn cael ‘amser tawel’ bob dydd – amser pan nad oes fawr o ddim yn digwydd er mwyn i dy blentyn allu ymlacio a gwneud fel y mynnant. Rho ganiatâd i dy blentyn ymuno â phlant eraill sy’n chwarae, er enghraifft mewn mannau fel parciau neu draethau. Cer a phapur, pennau ysgrifennu a phensiliau gyda thi, fel y gallwch dynnu llun, chwarae gemau neu greu awyrennau papur. Chwilia ar-lein am fannau i ymweld â nhw’n rhad ac am ddim – lleoedd fel parciau gwledig, coedwigoedd a chestyll. Cofia adael i dy blentyn wneud rhai o’r pethau y bydd yn eu gwneud gartref – fel chwarae eu hoff gemau, cwtsio gyda’u hoff degan meddal neu jesd ymlacio. Mae’n syniad da i gario un neu ddau degan bychan y gall dy blentyn chwarae gyda nhw os byddwch chi’n sefyllian mewn rhes o bobl neu mewn ystafell aros – fel doliau, anifeiliaid tegan bychain neu geir bach. Paid â theimlo dan bwysau i wneud gormod bob dydd. Os wyt ti am fwynhau siwrneiau a gwyliau ymlaciol, hwyliog cofia wneud yn siŵr bod amser i chwarae. Gall yr Awgrymiadau anhygoel ar gyfer teithio gyda dy blentyn hyn gael eu hargraffu a’u rhannu – maen nhw’n wych ar gyfer helpu eraill i ddarganfod mwy am chwarae plant.