Amser sgrîn ar gyfer plant yn eu harddegau Mae llawer o deuluoedd am ddod o hyd i gydbwysedd rhesymol rhwng yr amser gaiff ei dreulio o flaen sgrîn ac amser ar gyfer yr holl bethau hwyliog, bywiog a chymdeithasol eraill y gallai dy blentyn eu gwneud. Amser sgrîn - elfennau cadarnhaol a negyddol Gall amser sgrîn greu cyfleoedd cadarnhaol ar gyfer: cylchoedd cymdeithasol a chyfeillgarwch gwybodaeth a dysgu adloniant a mwynhad. Yn ogystal, gall amser sgrîn gael effaith negyddol ar: iechyd a gweithgarwch amser teulu cysylltiadau cymdeithasol ansawdd cwsg golwg. Pethau i’w gwneud yn lle amser sgrîn – yn enwedig y tu allan Mae’n dda taro cydbwysedd rhwng amser sgrîn a digonedd o amser ar gyfer chwarae a chymdeithasu, yn enwedig y tu allan. Mae rhai o’r buddiannau’n cynnwys: ffocysu eich llygaid ar bethau ar wahanol bellter - gall hyn helpu i atal problemau gyda’r golwg bod yn gorfforol egnïol bob dydd – bydd hyn yn cadw calonnau a chyrff yn iach chwarae gyda phlant ac oedolion eraill – bydd hyn yn datblygu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu chwarae gyda phethau – bydd hyn yn datblygu dealltwriaeth o’r byd. Pethau i bob aelod o’r teulu feddwl amdanyn nhw Cadw i symud Ceisia annog dy blentyn neu blentyn yn ei arddegau i godi a symud o gwmpas mor aml â phosibl. Rhowch dro ar bethau allai eich helpu i wrthbwyso amser sgrîn, er enghraifft gosod larymau ar ffonau i’ch atgoffa i gael saib a symud o gwmpas. Gwneud amserau bwyd yn adeg di-sgrîn Ceisiwch ymestyn yr amser di-sgrîn - peidiwch â rhuthro pryd bwyd er mwyn mynd yn ôl at y sgrîn. Ewch am dro, cael sgwrs, chwarae cardiau neu gêm fwrdd ar ôl pryd bwyd. Gofyn i dy blentyn neu blentyn yn ei arddegau ymuno yn y gwaith o baratoi bwyd a chlirio ar ôl y pryd. Cynllunio gyda’ch gilydd Trafod gyda dy blentyn neu blentyn yn ei arddegau am ba hyd y mae’n iawn i ddefnyddio sgriniau - a’u helpu i gadw at y cynllun. Defnyddiwch amserydd ar y llwybrydd (router), neu cytunwch y bydd pob dyfais - yn cynnwys dy rai di - yn cael eu rhoi mewn lle penodol (fel basged) ar adegau penodol, er enghraifft dros nos. Gosod esiampl. Rho dy ffôn neu ddyfeisiau eraill o’r neilltu a rhoi dy sylw llawn i dy blentyn neu dy blentyn yn ei arddegau. Cysgu’n dda Dylech osgoi sgriniau am awr cyn mynd i’r gwely. Cadwch ystafelloedd gwely mor ddi-sgrîn â phosibl. Ewch am dro gyda’ch gilydd wedi iddi nosi. Dwedwch straeon amser gwely. Chwiliwch am drefn noswylio sy’n gweithio i chi. Bydd yn effro Bydd yn ymwybodol, ond ddim yn fusneslyd nac yn feirniadol, pan ddaw’n fater o ddefnydd dy blentyn yn ei arddegau o’r rhyngrwyd. Cadw lygad ar yr hyn y mae dy blentyn yn ei wneud ar y rhyngrwyd a pha gemau y mae’n eu chwarae ar-lein er mwyn gwneud yn siŵr nad yw’n cael mynediad i gynnwys sy’n amhriodol neu’n niweidiol. Cofia, mae plant ifanc angen rhyngweithio cymdeithasol uniongyrchol er mwyn datblygu iaith a sgiliau eraill. All sgriniau fyth gymryd lle hynny. Gall Amser sgrîn ar gyfer plant yn eu harddegau gael eu hargraffu a’u rhannu – maen nhw’n wych ar gyfer helpu eraill i ddarganfod mwy am chwarae plant. Edrych ar Sut i ganfod cydbwysedd amser sgrîn da pan mae dy blant yn fabis ac yn blant bach.