Gall dyddiau gwlyb fod yn wych ar gyfer chwarae, waeth os fyddwch chi’r tu allan yn sblasio mewn pyllau neu’n swatio’n y tŷ.

Chwarae allan yn y glaw

Gall dy blentyn chwarae’r tu allan yn hirach os oes ganddyn nhw welingtons a chotiau glaw neu ambaréls. Mae rhai o’r pethau y gallan nhw eu harchwilio’r tu allan ar ddiwrnod glawog yn cynnwys: 

  • pyllau dŵr
  • diferion glaw
  • ffrydiau dŵr
  • enfysau
  • adlewyrchiadau.

Dod o hyd i fannau sych i chwarae’r tu allan

Gall bod y tu allan mewn lle sych pan mae’n bwrw glaw deimlo’n brofiad hudol - er enghraifft, yng nghysgod coeden neu gyntedd, o dan bont neu hyd yn oed mewn lloches fysus. Mewn mannau fel hyn, gall dy blentyn fwynhau teimlo’n agos at y tywydd a chlywed sŵn dŵr yn diferu a thasgu.

Dysgu am bethau gwlyb y tu allan

Mae dyddiau gwlyb yn gyfle perffaith i dy blentyn ddarganfod pethau fel:

  • sut mae dŵr yn creu pyllau
  • sut mae rhwystrau, fel cerrig, yn newid llif y dŵr
  • sut i groesi pyllau a ffrydiau dŵr bychan heb wlychu eich traed.

Chwarae’r tu mewn ar ddiwrnod glawog

Mae plant ifanc yn enwedig yn rhyfeddu at weld a chlywed y glaw pan maen nhw’n ei wylio trwy ffenestr.

Efallai y gall dy blentyn weld pethau fel:

  • diferion yn rhedeg i lawr y ffenestr
  • pethau fel potiau jam yn llenwi gyda dŵr
  • pobl yn rhuthro heibio’n cario ambaréls
  • ceir yn gyrru trwy byllau mawr o ddŵr.

Creu celf diwrnod gwlyb

Mae diwrnod gwlyb yn amser gwych i dy blentyn wneud pethau creadigol. Fe allet ti awgrymu:

  • tynnu lluniau diwrnod gwlyb
  • creu sblashis o baent dyfrllyd ar ddalen fawr o bapur a’u troi yn greaduriaid a chymeriadau doniol
  • chwythu paent ar ddalen fawr o bapur trwy welltyn er mwyn creu patrymau igam-ogam
  • rhwygo darnau o bapur lliw er mwyn creu patrymau siâp ambarél neu ddiferion glaw.

Chwarae creadigol a dychmygol ar ddiwrnod glawog

Mae’n wych bod â syniadau am bethau y gallwch eu gwneud gyda’ch gilydd, ond hyd yn oed pan fyddwch yn methu symud o’r tŷ am ddiwrnod cyfan, ’does dim rhaid iti ddiddanu dy blentyn trwy’r amser. Mae’n gwneud lles i dy blentyn feddwl am syniadau o bethau i’w gwneud drosto’i hun.

Efallai y bydd dy blentyn yn teimlo wedi diflasu ar y dechrau. Efallai y bydd eisiau dy sylw di neu eisiau sgrîn, ond os dywedi di wrth dy blentyn yn dawel bod hwn yn gyfle iddyn nhw feddwl am rywbeth arall i’w wneud am ychydig, mae’n debyg y gwnaiff. Un ffordd i helpu yw bod â chyflenwad o ddeunyddiau chwarae syml o’r cartref y gall chwarae â nhw - fel clustogau a phulws i greu cuddfannau, hen ddillad ar gyfer gwisgo i fyny, deunyddiau celf neu lyfrau.

Mae gwneud fawr ddim am ychydig - er enghraifft, edrych allan trwy’r ffenestr neu synfyfyrio - yn ffordd iawn i dy blentyn dreulio ei amser hefyd.

Am syniadau eraill am bethau y gall dy blentyn eu chwarae’r tu mewn, edrych ar ein tudalennau syniadau chwarae a chuddfannau.

Gall Awgrymiadau anhygoel ar gyfer chwarae ar ddiwrnod gwlyb gael eu hargraffu a’u rhannu – maen nhw’n wych ar gyfer helpu eraill i ddarganfod mwy am chwarae plant.