Awgrymiadau anhygoel ar gyfer cuddfannau yn y cartref Mae creu cuddfan - a chwarae ynddi - yn hoff weithgaredd gan blant o bob oed. Mae’n hawdd iawn creu cuddfan gyda phethau sydd yn y cartref. Pam fod cuddfannau’n gymaint o hwyl? Mae plant wrth eu bodd yn cuddio mewn mannau bychain a ble y gallan nhw greu eu bydoedd bach eu hunain. Mae cuddfannau’n creu ymdeimlad o glydwch a gall fod yn lle braf iawn iti swatio gyda dy blentyn. Fe allan nhw fod yn fannau defnyddiol i dy blentyn ymlacio a chael rhywfaint o lonydd. Pethau y gall dy blentyn eu defnyddio i greu cuddfan Gall dy blentyn greu cuddfan gyda phob mathau o bethau: cadeiriau a byrddau gyda chynfasau neu flancedi wedi eu taflu drostyn nhw bocsys cardbord (weithiau bydd archfarchnadoedd neu siopau eraill yn fodlon rhoi rhai iti) hors ddillad, pegiau a chynfasau lein ddillad, pegiau, llieiniau bwrdd a llenni cawod ffyn bambŵ a brwshis llawr gyda choes hir (i greu ffrâm) ambaréls golff a chlustogau. Efallai y bydd dy blentyn angen dy help i ddod o hyd i bethau y gall eu defnyddio i greu cuddfan. Efallai y bydd hefyd am iti eu helpu i’w hadeiladu, ond ceisia adael i dy blentyn wneud cymaint â phosibl ei hun - bydd yn dysgu mwy felly. Pethau y gall dy blentyn eu rhoi yn y guddfan Dyma rai pethau y gellir eu defnyddio i addurno’r guddfan neu i’w rhoi ynddi: pentyrrau o glustogau a phulws goleuadau mân fflagiau, llieiniau sychu llestri a sgarffiau bocsys esgidiau bwrdd picnic a stolion gwersylla pethau o’r gegin, fel sosbannau a phadellau tedis, doliau a theganau meddal eraill. Pethau y gall dy blentyn eu gwneud yn y guddfan Mae’n debyg y bydd gan dy blentyn ddigonedd o syniadau ar gyfer chwarae yn eu cuddfan. Yn nychymyg dy blentyn gall fod yn unrhyw beth - er enghraifft: man cuddio gwersyll siop ogof hud twll cwningen dwnjwn. Efallai mai creu’r guddfan fydd o fwyaf o ddiddordeb i dy blentyn. Paid â phoeni os bydd yn colli diddordeb wedi ei chreu, neu os bydd yn mynd ati i’w chwalu. Ymuno â dy blentyn yn y guddfan Os bydd dy blentyn yn dy wahodd i ddod i mewn i’w cuddfan i chwarae, galli ddilyn eu hesiampl, ond ceisia beidio cymryd trosodd. Efallai yr hoffai dy blentyn iti ymuno â nhw am damaid i’w fwyta neu i ddweud straeon. Neu efallai y bydd am iti ddod i ymweld, edmygu’r guddfan ac yna gadael llonydd iddyn nhw. Codi cuddfan y tu allan Mae cuddfannau’n hwyl fawr i chwarae ynddyn nhw y tu allan. Gall gofod y tu ôl i lwyn neu o dan glawdd greu cuddfan wych. Neu gallai dy blentyn greu cuddfan y tu allan gan ddefnyddio llawer o’r pethau y byddai’n eu defnyddio y tu mewn. Gall deunyddiau cryfach, fel ffabrig sy’n dal dŵr neu gynfasau llawr, fod yn ddefnyddiol y tu allan hefyd. Gall Awgrymiadau anhygoel ar gyfer cuddfannau yn y cartref gael eu hargraffu a’u rhannu – maen nhw’n wych ar gyfer helpu eraill i ddarganfod mwy am chwarae plant.