Dyma ein hawgrymiadau anhygoel ar gyfer magu plant yn chwareus:

Gadael i dy blentyn ddewis beth y mae am chwarae, sut y mae am chwarae a gyda phwy i chwarae.

Yn ystod eu bywydau bob dydd, bydd plant yn derbyn llawer o gyfarwyddiadau oddi wrth oedolion, felly dylai chwarae’n ystod eu hamser rhydd fod yn rhywbeth y maen nhw’n ei arwain.

Gadael i dy blentyn ddatrys eu problemau eu hunain

Bydd dangos y ‘ffordd iawn’ iddyn nhw wneud rhywbeth yn eu hatal rhag darganfod pethau drostynt eu hunain. Fe ddysgan nhw lawer mwy os allan nhw ei weithio allan eu hunain.

Cymer gam yn ôl a chadw lygad ar dy blentyn o bell

Maen nhw’n fwy tebygol o chwarae yn eu ffordd eu hunain ac fe wnân nhw elwa o arbrofi a phrofi pethau drostynt eu hunain. Fyddan nhw ddim angen cynllun manwl o weithgareddau.

Gadael i dy blentyn fwynhau heriau corfforol fel dringo coed neu gerdded ar ben wal

Gwna dy orau i beidio bod yn orwarchodol. Y gwaethaf all ddigwydd fel arfer yw cnoc, clais neu grafiad.

Rho ychydig o bethau i dy blentyn i’w helpu i chwarae yn ei ffordd ei hun

Rho ychydig o bethau i dy blentyn i’w helpu i chwarae yn eu ffordd eu hunain. Y cyfan y byddan nhw ei angen yw ychydig o deganau, eitemau tŷ arferol, ac adnoddau chwarae. Mae rhai o’r pethau fydd yn eu hannog i fod yn greadigol ac i ddefnyddio eu dychymyg yn cynnwys:

  • defnydd
  • darnau o landeri
  • tiwbiau a bocsys cardbord
  • teiars
  • brigau
  • tarpolinau
  • cortyn
  • rhaff.

Gall yr Awgrymiadau anhygoel ar gyfer magu plant yn chwareus hyn gael eu hargraffu a’u rhannu – maen nhw’n wych ar gyfer helpu eraill i ddarganfod mwy am chwarae plant.