Mae siglenni wedi bod yn rhan o chwarae plant ers cenedlaethau. Mae chwarae ar siglenni’n weithgaredd cymdeithasol poblogaidd ar gyfer pobl o bob oed, o blant ifanc iawn i oedolion.

Beth sy’n gwneud siglenni’n gymaint o hwyl?

Mae plant yn cael ymdeimlad o symud yn rhydd trwy’r awyr. Gall deimlo’n gyffrous iawn i fynd yn uwch ac yn uwch neu gall deimlo’n ymlaciol i siglo’n araf. Yn ogystal, mae siglenni’n dirnod i blant, yn lle ble gallan nhw gyfarfod â’u ffrindiau.

Mae chwarae ar siglenni o fudd i ddatblygiad dy blentyn

Mae siglo’n helpu i ddatblygu cydsymudiad, balans a rheolaeth dy blentyn dros ei gyhyrau. Mae chwarae ar siglenni’n gadael i dy blentyn brofi amrywiol emosiynau fel cyffro, perygl, ymddiriedaeth a chyflawniad.

Siglenni rhaff a siglenni teiars

Mae siglenni rhaff neu deiars cartref - er enghraifft, mewn coedwig neu ger y parc - yn rhoi ymdeimlad o antur i blant. Maen nhw’n rhoi ymdeimlad i blant nad yw oedolion â chymaint o reolaeth dros bopeth yn eu byd. Fel arfer, maen nhw’n elfennau dros dro ac yn aml yn teimlo’n fwy heriol a gwahanol i’r arfer na siglenni mewn parc.

Mae chwarae ar siglenni’n apelio i blant yn eu harddegau

Yn aml, bydd plant yn eu harddegau’n defnyddio siglenni ar adegau pan na fydd pobl eraill yn eu defnyddio, gyda’r nos er enghraifft. Maen nhw’n rhywle i gwrdd, ac i eistedd a sgwrsio. Bydd plant yn eu harddegau’n aml yn chwilio am fwy o risg a gwefr, felly mae’n bosib y byddan nhw’n siglo’n uchel iawn, gan wneud llawer o sŵn a thynnu sylw at eu hunain o flaen pobl eraill. Gall siglenni rhaff mewn mannau mwy cyffrous - er enghraifft, dros afon - fod yn boblogaidd gyda phlant yn eu harddegau.

Efallai y bydd plant yn eu harddegau’n defnyddio siglenni mewn ffyrdd sy’n gwylltio pobl eraill

Os bydd hyn yn digwydd, cyfathrebu fydd yr ateb i ddatrys unrhyw broblemau fel arfer. Gallet geisio:

  • siarad gyda nhw pan mae’n dawel yn hytrach na pan mae criw o bobl o gwmpas
  • rhoi gwybod iddyn nhw - ac i bobl eraill, hefyd - bod ganddyn nhw hawl i chwarae, a bod ymddygiad swnllyd yn rhan naturiol o chwarae
  • apelio at eu natur dda trwy eu hatgoffa bod plant iau yn chwarae yno’n ystod y dydd, a gofyn iddyn nhw wneud yn siŵr nad oes sbwriel neu graffiti yn cael eu gadael yno. 

Os yw fandaliaeth yn broblem yn dy ardal, ceisia ddod o hyd i’r plant yn eu harddegau sydd â dylanwad dros blant eraill yn eu harddegau a chael sgwrs gyda nhw. Ceisia eu cael ar dy ochr di a gofyn iddyn nhw ddefnyddio’u dylanwad i bersawdio pawb i adael y siglenni mewn cyflwr y gellir eu defnyddio.

Siglenni a risg

Mae anafiadau bychain, fel sgriffiadau a chrafiadau, i’w disgwyl wrth chwarae ar siglenni. I sicrhau chwarae mwy diogel ar siglenni rhaff a theiars, dyma rai pethau y galli gadw llygad amdanyn nhw a’u hosgoi:

  • rhaffau wedi gwisgo neu eu difrodi
  • canghennau pwdr neu wedi hollti ar y goeden ble mae’r siglen yn crogi
  • pethau miniog neu galed ar lawr, ble gallai dy blentyn lanio wrth gwympo oddi ar y siglen
  • pethau caled - fel coeden arall, wal neu bolyn lamp - y gallai dy blentyn siglo a tharo ar ei draws
  • arwynebau caled fel concrid, tarmac neu raean o dan siglenni.

Pa mor uchel sy’n rhy uchel ar gyfer siglen?

Mae’n anodd ateb hyn yn bendant - mae’n dibynnu beth sydd o amgylch y siglen, o beth mae’r siglen wedi ei chreu a’r lefel o oruchwyliaeth sydd ar gael. Ond mae rhai sefydliadau’n argymell mai dau fetr ddylai fod mwyafswm yr uchder y dylai plentyn allu cwympo, os bydd yn cwympo oddi ar siglen sydd wedi cyrraedd ei uchder eithaf.