Ydy pobl eraill yn dy gymuned yn deall pwysigrwydd chwarae? Er mwyn annog oedolion - fel rhieni, cynghorwyr lleol, staff ysgol, cymdogion, swyddogion yr heddlu a wardeniaid cymunedol - i roi mwy o gefnogaeth i chwarae, mae’n bosibl y bydd angen iti eu helpu i’w ddeall yn well.

Dyma rai syniadau allai helpu.

Archwilio atgofion chwarae pobl

Pan fydd pobl yn cofio sut y bydden nhw’n chwarae pan oedden nhw’n blant, maen eu helpu i greu cysylltiad emosiynol gyda chwarae. Gofyn i oedolion ddweud wrthyt ble oedd eu hoff fannau i chwarae, beth oedden nhw’n hoffi ei chwarae a phwy fydden nhw’n chwarae gyda nhw pan yn blant. Mae hyn yn gweithio’n dda mewn cyfarfodydd, hyd yn oed rai cymharol ffurfiol.

Egluro am hawl plant i chwarae

Gofyn os ydyn nhw’n gwybod bod gan bob plentyn hawl i chwarae o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Fe arwyddodd y DU y confensiwn hwn yn 1989. Gallai fod yn ddefnyddiol i ddweud wrthyn nhw bod gan bob awdurdod lleol yng Nghymru gyfrifoldeb hefyd i ddarparu cyfleoedd chwarae ar gyfer plant.

Cael y plant i siarad drostynt eu hunain

Mae chwarae’n bwysig i blant felly, fel arfer, bydd ganddyn nhw ddigon i ddweud amdano. Bydd eu cael i rannu eu profiadau o chwarae – gan ddefnyddio eu geiriau a’u lluniau eu hunain – yn rymus iawn.

Dewis y bachyn

Bydd gwahanol bethau o ddiddordeb ac yn perswadio pobl - ffeithiau, ystadegau, straeon a lluniau. Ceisia ddod o hyd i’r peth fydd yn dal sylw’r bobl yr wyt angen eu perswadio ynghylch pwysigrwydd chwarae.

Cael y ffeithiau’n gywir

Mae digon o dystiolaeth am bwysigrwydd chwarae. Defnyddia rywfaint o ffeithiau gan bobl fel academyddion a gweithwyr iechyd ac addysg proffesiynol i greu dadl gref.

Defnyddio delweddau positif

Mae un darlun yn well na mil o eiriau:

  • Beth am rannu lluniau o blant yn chwarae yn y gorffennol ac yn chwarae heddiw
  • Gofyn i bobl rannu eu lluniau chwarae eu hunain
  • Anfon stori â llun i dy bapur newydd lleol
  • Defnyddia’r cyfryngau cymdeithasol.

Cofia ddangos lluniau sy’n cynrychioli pawb yn y gymuned. A chofia wneud yn siŵr dy fod wedi derbyn caniatâd pawb yn y llun (neu eu hoedolyn cyfrifol) i’w dynnu ac i’w ddefnyddio. Os byddi am ddefnyddio ffotograff sydd wedi ei dynnu gan rywun arall, gofyn am eu caniatâd a gwneud yn siŵr dy fod yn diolch iddynt trwy nodi eu henw neu enw eu cwmni wrth ymyl y llun.

Canfod y llais dylanwadol

Gall clywed siaradwr gwych yn rhoi sgwrs fod yn brofiad grymus iawn. Ceisia ddod o hyd i’r person cywir ar gyfer dy gynulleidfa di - pa fath o berson fydden nhw’n gwrando arno? Gallai enghreifftiau gynnwys rhywun o fudiad chwarae, pennaeth ysgol, ymchwilydd neu arbenigwr allanol, rhywun o’r gymuned.

Apelio i ymdeimlad pobl o degwch

Mae gan bob plentyn hawl cyfartal i chwarae ond mewn gwirionedd fydd pob un ohonyn nhw ddim yn cael profiadau cyfartal. A oes plant yn dy gymuned neu dy leoliad chwarae sy’n colli allan ar chwarae? Trafod pam a beth ellir ei wneud.

Dathlu

Mae pob llwyddiant, boed fawr neu fach, yn haeddu cael ei gydnabod. Cofia roi cyhoeddusrwydd i bob gorchest a dathlu’r prosiectau a’r gweithgareddau sy’n mynd yn dda, gan ddefnyddio dy bapur newydd lleol a’r cyfryngau cymdeithasol.

Dysga fwy am sut y galli gynyddu ymwybyddiaeth am chwarae

Gall yr Awgrymiadau anhygoel ar gyfer cael pobl eraill i feddwl am bwysigrwydd chwarae hyn gael eu hargraffu a’u rhannu – maen nhw’n wych ar gyfer helpu eraill i ddarganfod mwy am chwarae plant.