O neidio mewn pyllau i redeg ar ôl dail yn y gwynt, mae plant yn mynd ati’n naturiol i archwilio’r elfennau - pridd, dŵr, tân ac awyr. Mae cyfleoedd i chwarae gyda - ac yn - yr elfennau o’n hamgylch ym mhobman, bob dydd.

Bydd chwarae sy’n cynnwys yr elfennau’n helpu dy blentyn i ddeall y byd o’u hamgylch. Mae’n rhoi cyfle iddynt ddysgu sut mae’r byd yn gweithio, sut mae’n teimlo, yr hyn y mae’n gallu ei wneud a’r hyn y gallan nhw ei wneud ag o. Yn ogystal â dysgu am y byd o’u hamgylch, gall chwarae gyda’r elfennau fod yn llawer o hwyl ac yn bleserus iawn hefyd.

Bydd plant yn dysgu oddi wrth gyswllt go iawn gyda’r byd o’u hamgylch

Byddant yn defnyddio eu dwylo, eu cyrff, eu meddyliau a’u synhwyrau i gyd. Pan fyddan nhw’n chwarae fel hyn, maen nhw’n archwilio, yn darganfod ac yn arbrofi.

Gall plant chwarae gyda’r elfennau ym mhobman bron

Gall plant chwarae gyda’r elfennau ym mhob math o leoedd, fel parciau, coedydd, traethau, gerddi, rhandiroedd, clytiau bychain o laswellt, coedlannau, a phyllau tywod. Cei hyd i rai o’r mathau hyn o leoedd yn dy gymdogaeth, waeth os wyt ti’n byw mewn pentref, tref neu ddinas.

Y tywydd yw’r elfennau ar waith

Un o’r ffyrdd rhwyddaf i archwilio’r elfennau yw mynd allan ym mhob tywydd. Mae’r tywydd yn dangos grym ac effaith natur inni. Mae’n newid bob dydd bron a gellir chwarae ynddo’n rhad ac am ddim

Bydd gwisgo ar gyfer y tywydd yn gadael ichi chwarae allan yn hirach

Mae hetiau haul, eli haul, welis, dillad dal dŵr, a haenau o ddillad cynnes i gyd yn ddefnyddiol. Gall chwarae yn yr elfennau achosi llanast, felly daliwch afael ar hen ddillad nad oes ots os byddan nhw’n cael eu gwlychu neu’u baeddu. Bydd mynd yn droednoeth neu wisgo siwt nofio ar gyfer chwarae mewn dŵr, tywod a mwd yn teimlo’n dda ac yn arbed golchi dillad hefyd.

Credu yn dy synnwyr cyffredin

Rwyt ti’n adnabod dy blentyn ac yn gwybod yr hyn y gallant ymdopi ag e’n ddiogel. Dylet gredu yn dy synnwyr cyffredin personol o ran y lefel o oruchwyliaeth a chymorth y bydd dy blentyn ei angen i chwarae’n ddiogel. Bydd plant yn dysgu trwy brofi a methu ac mae’n dda iddyn nhw roi tro ar bethau drostynt eu hunain.

Dylet ddechrau’n syml - er enghraifft, chwarae gyda mwd a thywod neu chwythu swigod. Yna, wrth i dy hyder - a hyder dy blentyn - dyfu, gallwch symud ymlaen i bethau mwy heriol fel rhostio malws melys neu chwarae ar lithrennau dŵr.

Chwarae gyda’r elfennau y tu allan

Dyma rai awgrymiadau:

  • Pridd– creu teisennau mwd, cael bath mwdlyd, tyllu, plannu hadau, creu ffosydd, ‘paentio’ gyda phridd a mwd, adeiladu cestyll tywod, claddu pethau
  • Dŵr– padlo, codi argae, creu pontydd a cherrig sarn, nofio, chwarae gyda balŵns dŵr, gynau dŵr, llithrennau dŵr, pyllau, cychod bach
  • Awyr– chwarae gyda baneri, melinau gwynt, barcutiaid a balŵns, mynd i leoedd uchel, dringo coed
  • Tân– adeiladu ac eistedd o amgylch tân gwersyll, rhostio malws melys, barbeciws, gwylio coelcerthi.

Chwarae gyda’r elfennau dan do

Os na allwch chi fynd allan, yna dewch â’r elfennau i mewn. Bydd cynllunio ymlaen llaw yn dy helpu i reoli lefel y llanast - er enghraifft, efallai bod gennyt un ystafell sy’n well ar gyfer chwarae gwlyb neu chwarae fydd yn creu llanast, neu efallai y galli orchuddio’r llawr neu fwrdd gyda hen gynfasau, llieiniau neu bapur newydd.

  • Pridd– plannu hadau mewn potiau a bocsys ffenestri, tyfu berwr mewn plisgyn ŵy, modelu clai, cafn tywod
  • Dŵr– teganau bath, dowcio am afalau, golchi llestri, cafn dŵr
  • Awyr– rhubanau, balŵns, awyrennau papur, telesgopau, ffaniau
  • Tân– canhwyllau bach a mawr mewn tun fel y gallwch chwarae yn ddiogel gyda thân dan do.

Gall yr Awgrymiadau anhygoel ar gyfer chwarae gyda phridd, dŵr, tân ac awyr hyn gael eu hargraffu a’u rhannu – maen nhw’n wych ar gyfer helpu eraill i ddarganfod mwy am chwarae plant.