Pan mae plant ifanc yn chwarae, mae eu cyrff a’u hymennydd yn datblygu. Mae chwarae’n helpu dy blentyn i deimlo’n hapus a bod yn iach. Mae hefyd yn creu sail wych ar gyfer eu dysg, ymddygiad a’u hiechyd i’r dyfodol.

Y cyngor gorau ar gyfer helpu dy blentyn i baratoi ar gyfer mynd i’r ysgol yw: gad iddyn nhw chwarae, chwarae a chwarae mwy, o’r cychwyn cyntaf.

Ymennydd dy blentyn

Yn ystod blynyddoedd cyntaf bywyd dy blentyn, bydd eu hymennydd yn creu cysylltiadau’n rhyfeddol o gyflym.

Bydd rhai o’r pethau y galli eu gwneud yn helpu’r broses yma’n fawr iawn. Er enghraifft, pan fydd dy fabi’n crïo neu eisiau dy sylw, byddi’n helpu ei ymennydd i ddatblygu mewn ffordd iach os byddi’n ymateb trwy gynnal cyswllt llygad, cŵan neu roi coflaid iddyn nhw. Dyma rai o’r ffyrdd y bydd cyfathrebu a sgiliau cymdeithasol yn dechrau datblygu.

Nid oes tystiolaeth wyddonol sy’n dweud y bydd teganau neu fideos drud yn helpu gyda’r sgiliau hyn. Yn hytrach, mae tystiolaeth yn dangos mai’r dylanwad pwysicaf ar ddatblygiad cynnar ymennydd plentyn yw rhyngweithio gydag oedolion gofalgar.

Sut mae chwarae’n helpu dy blentyn i fod yn barod ar gyfer yr ysgol?

Swyddogaeth bwysicaf chwarae yw gadael i dy blentyn archwilio a deall y byd trwy eu profiadau nhw eu hunain, defnyddio eu dwylo, eu cyrff, eu hymennydd a’u synhwyrau (er enghraifft, golwg, clyw, arogl, blas a chyffyrddiad).

Gall fod yn ddefnyddiol iti gofio bod y byd yn llawn o bethau newydd i blant. Dyma pam y byddan nhw’n: 

  • Ailadrodd rhai gweithgareddau
  • Treulio llawer o amser yn chwarae’r un gêm neu’n chwarae gyda’r un teganau
  • Tynnu pethau oddi wrth ei gilydd, eu taflu neu neidio arnyn nhw i weld beth ddigwyddith
  • Wrth eu bodd yn clywed yr un straeon a rhigymau drosodd a throsodd.

Pa sgiliau a doniau wnaiff helpu dy blentyn pan mae’n dechrau’r ysgol?

Mae chwarae’n helpu dy blentyn i ddatblygu sgiliau fydd yn ei helpu yn yr ysgol. Mae’r rhain yn cynnwys gallu:

  • Defnyddio eu cof i gysylltu darnau o wybodaeth
  • Cadw eu sylw ar rywbeth pan mae angen
  • Symud eu sylw, er enghraifft pan fydd yr athro/athrawes yn gofyn i bawb ddod at ei gilydd
  • Ymdopi â phethau fydd yn tynnu ei sylw - a chadw at gynlluniau
  • Gwrthsefyll temtasiynau bob dydd – fel cymryd rhywbeth y maent ei awydd heb ofyn
  • Ymdopi gyda straen bob dydd. 

Chafodd dy blentyn mo’i eni gyda’r sgiliau hyn, ond cafodd ei eni gyda’r potensial i’w datblygu – a chwarae yw un o’r ffyrdd pennaf i wneud hyn.

Pa fath o gemau a chwarae fydd yn helpu dy blentyn i ddatblygu’r sgiliau y mae eu hangen?

Mae dy blentyn angen amrywiaeth eang o chwarae fel rhan o fywyd bob dydd. Gemau bob dydd syml, hwyl a chwarae yw’r cyfan sydd angen. Dyma rai syniadau: 

Babis

  • Gemau fel pi-po!
  • Gemau dynwared neu gopïo
  • Rhigymau, caneuon a gemau clapio
  • Siarad
  • Edrych trwy lyfrau gyda’ch gilydd. 

Plant bach

  • Gemau egnïol
  • Chwarae cymharol ‘wyllt’
  • Archwilio’r tu allan
  • Sgwrsio ac adrodd straeon
  • Gemau paru a threfnu
  • Chwarae llawn dychymyg.

Plant meithrin

  • Chwarae llawn dychymyg
  • Adrodd straeon, sgwrsio, caneuon a rhigymau
  • Caneuon a gemau gyda symudiadau, fel cerfluniau cerddorol
  • Gemau a gweithgareddau tawel, fel posau, coginio a garddio
  • Chwarae rôl a gwisgo i fyny
  • Chwarae poitshlyd a chwarae gyda’r synhwyrau - er enghraifft, chwarae gyda dŵr, mwd, blawd a defnydd.