Yn aml iawn, ni oedolion fydd fwyaf amharod i fynd allan mewn tywydd garw ac nid y plant.

Gall sblasio mewn pyllau dŵr fod yn lot fawr o hwyl. ’Does dim rheswm i blant ac oedolion iach adael i ychydig o dywydd gwael eu stopio rhag chwarae yn yr awyr agored. Dyma rywfaint o bethau ymarferol y galli eu gwneud i’w gwneud hi’n haws i dy blentyn chwarae yn yr awyr agored yn y glaw.

Gwisgo ar gyfer y tywydd

Gwna’n siŵr bod dy blentyn yn gwisgo hen ddillad a welis pan fyddan nhw’n chwarae’r tu allan. Rwyt ti’n llai tebygol o boeni am dy blentyn yn chwarae gyda dŵr a mwd os byddan nhw - a thithau hefyd - yn gwisgo dillad nad oes ots amdanyn nhw.

Cadw pethau’n hwyl

Meddylia sut y galli ddefnyddio’r glaw i ychwanegu at yr hwyl - llithrennau dŵr, gemau balwnau dŵr, helfa mwydod. Unwaith dy fod yn teimlo’n gyfforddus bod allan mewn tywydd gwlyb, galli ddechrau meddwl am fwd - cacennau mwd, llithrennau mwd a phaentio gyda mwd.

Bod yn barod i fynd i mewn

Pan fyddi’n teimlo’n bositif - ac yn gyffrous, hyd yn oed - am fynd allan, mae’n debyg iawn y bydd dy blentyn hefyd. Mae plant yn poeni llai am amodau tywydd heriol nac oedolion, yn enwedig pan allan nhw chwarae gyda dŵr neu fwd. 

Ond os bydd dy blentyn yn dechrau cwyno eu bod yn oer neu’n wlyb unwaith eich bod y tu allan, cofia ddechrau trwy ofyn cwestiwn neu ddau. Beth sy’n teimlo’n oer? Ai’r dillad yw’r broblem? (Os ie, newid y dillad.) Ydi dy blentyn yn poeni am gael mwd ar ei ddillad?

Rho dro ar weithgaredd gwahanol i weld os wnaiff hynny wahaniaeth. Beth am archwilio’r gymdogaeth gyda’ch gilydd? Neidio mewn pyllau dŵr? Ceisio dal dafnau glaw? Creu cacennau mwd?

Os bydd dim yn tycio, bydd yn barod i fynd yn ôl i’r tŷ. Mae chwarae’r tu allan i fod yn hwyl, felly ’does dim pwrpas aros y tu allan os nad ydi dy blentyn yn mwynhau. Mae pob mathau o ffyrdd y gallai dy blentyn chwarae gartref.