Os fyddi di’n mynychu achlysur ffurfiol, fel priodas, parti teuluol neu angladd gyda dy blentyn, mae’n bosibl y byddi’n meddwl os yw hi’n iawn i dy blentyn chwarae yno. ’Does dim rheolau ar gyfer hyn, ac efallai bod rhieni eraill yn teimlo’r un fath. 

Pethau y gallet fod yn pryderu amdanyn nhw  

  • Y gallai dy blentyn dynnu sylw pobl neu darfu ar y digwyddiad
  • Y gallai sŵn plant yn chwerthin a chwarae ddigio pobl
  • Y gallai dy blentyn ddiflasu ac aflonyddu os na chaiff chwarae.

Pam allai plant fod angen chwarae?

Gall digwyddiad ffurfiol fod yn eithaf anodd a blinedig i blant. Gall nifer o bethau wneud y profiad yn un anodd i dy blentyn. Er enghraifft:

  • bod mewn lle neu sefyllfa anghyfarwydd
  • gweld pobl yn ymddwyn mewn ffordd wahanol neu anarferol
  • bod disgwyl iddyn nhw eistedd yn dawel am gyfnod hir.

Taro cydbwysedd rhwng anghenion dy blentyn ac anghenion pobl eraill

Mae’n beth da meddwl sut i gyflawni anghenion dy blentyn, a tharo cydbwysedd rhwng hyn ac anghenion a dymuniadau pobl eraill yn y digwyddiad. Er enghraifft:

  • Mae rhai pobl wrth eu bodd yn clywed lleisiau plant mewn priodas, ond mae eraill yn credu y dylai priodas fod yn fwy difrifol.
  • Ar ôl angladd, mae rhai pobl yn cael cysur o weld plant yn chwarae, ond efallai y caiff pobl eraill eu gofidio gan hyn.

Cynllunio ymlaen llaw

Allet ti gysylltu ymlaen llaw gyda’r gwahoddwyr neu’r trefnwyr i gael sgwrs am dy blentyn a’r digwyddiad? Bydd hyn yn dangos dy fod am wneud y peth iawn a bydd yn rhoi cyfle iddyn nhw roi gwybod iti sut yr hoffen nhw i bethau fod. 

Fe allet ti ddweud:

  • Dwi’n gwybod y bydd hi’n anodd i fy mhlentyn eistedd yn dawel am gyfnod hir
  • Bydd angen iddyn nhw gael cyfle i chwarae ac ymlacio yn ystod y dydd
  • Tydyn ni ddim am darfu ar y digwyddiad, felly dwi am holi ymlaen llaw beth fydd orau inni ei wneud.

Mae rhai o’r pethau y gallet eu gwirio’n cynnwys:

  • Fydd hi’n iawn imi fynd a nhw allan i chwarae am ychydig?
  • Oes lle ble bydd hi’n iawn / ddim yn iawn iddyn nhw chwarae?
  • Oes unrhyw un y bydd angen inni eu hystyried yn benodol neu fod yn ofalus yn eu cylch?
  • Fydd plant eraill yno?

Bydd rhai pobl yn ymateb trwy ddweud eu bod yn gwbl hapus i’r plant chwarae. Caiff pobl sy’n llai cyfforddus gyda hyn gyfle i ystyried dy safbwynt di ac mae’n debyg y byddan nhw’n gwerthfawrogi dy fod wedi gofyn .

Cynghorion

  • Bydd yn barod i gael y math yma o sgwrs gyda phobl eraill ar y diwrnod.
  • Gwna’n glir dy fod yn cadw llygad ar dy blentyn wrth iddyn nhw chwarae, hyd yn oed os byddi di’n gwylio o bell.
  • Os oes tipyn o blant yno, cymer dro gyda’r rhieni eraill - ac unrhyw oedolion eraill sy’n fodlon helpu - i gadw llygad ar y plant i gyd.
  • Cofia fynd ag ychydig o deganau bach gyda thi ar gyfer dy blentyn - fel pensel a llyfr ysgrifennu, posau bychain neu hoff degan meddal.