Gemau hawdd i’w chwarae gyda grŵp o blant Mae gemau grŵp yn ffordd wych i dy blentyn neu dy blentyn yn ei arddegau wneud ffrindiau newydd. Fe allan nhw helpu plant sydd ddim yn adnabod ei gilydd i deimlo’n gyfforddus. Mae llawer o gemau’n addas ar gyfer plant o wahanol oed a gallu, a gall oedolion chwarae hefyd. Mae gemau grŵp yn wych i chwarae yn y parc neu ar y stryd ar ôl ysgol, ar y traeth, neu mewn digwyddiadau fel picnics neu bartïon. Dyma rai gemau i roi cychwyn ar bethau! Tic Mae Tic yn gêm gwrso gaiff ei chwarae dros y byd i gyd. Mae un person ‘Ymlaen’. Bydd y person sydd ‘Ymlaen’ yn cyfrif i 10 cyn rhedeg ar ôl y chwaraewyr eraill. Pan fydd y person sydd ‘Ymlaen’ yn cyffwrdd rhywun arall, bydd yn gweiddi ‘Tic’. Yna’r person gafodd ei gyffwrdd sydd ‘Ymlaen’ a byddan nhw’n dechrau rhedeg ar ôl pawb arall. Gall y gêm para cyhyd â bod pawb awydd. Mae llawer o amrywiadau ar gemau tic i’w cael. Dyma rai enghreifftiau: Tic uchel - alli di ddim cael dy dicio os ydi dy draed oddi ar y llawr - er enghraifft, os byddi’n sefyll ar wal neu’n hongian ar gangen coeden. Tic hopian – alli di ond hopian, ddim rhedeg. Tic twnnel - os cei dy dicio, bydd rhaid iti sefyll gyda dy goesau ar led a dy freichiau allan tan i chwaraewr arall dy ryddhau trwy gropian rhwng dy goesau. Tic cysgod – Bydd y person sydd ‘Ymlaen’ yn dy dicio trwy sefyll ar dy gysgod yn hytrach na chyffwrdd ynot ti. Gêm hawdd sy’n helpu plant i ddysgu enwau ei gilydd Chwilia am rywbeth i’w daflu fel pêl - er enghraifft, pêl, balŵn, tegan meddal, sgarff wedi ei rowlio’n bêl neu lemon. Pawb i greu cylch. Pasiwch y ‘bêl’ o amgylch y cylch. Gofyn i bob person ddweud eu henw wrth dderbyn y bêl ac yna ei phasio ymlaen i’r person nesaf. Unwaith i bawb ddal y bêl o leiaf unwaith, gofyn i’r person sy’n dal y bêl i ddweud enw unrhyw berson yn y cylch a thaflu’r bêl atyn nhw. Pan fydd y person yna’n ei dal, bydd yn dewis rhywun arall, galw eu henw a thaflu’r bêl atyn nhw, ac yn y blaen. Daliwch ati am ychydig o droeon ac yna ychwanegu eitem arall, y gall rhywun arall ddechrau ei thaflu o amgylch y cylch. Ychwanegwch fwy o eitemau bob yn un, tan fod gennych nifer o bethau’n cael eu taflu yn ôl ac ymlaen. Dal cynffon y ddraig Chwilia am ddau sgarff neu ddarn hir o ffabrig i’w defnyddio fel ‘cynffonau’. Rhannwch bawb yn ddau grŵp. Gofynnwch i’r grwpiau greu dwy linell, gyda phob person yn gafael am ganol y person o’u blaen. Mae pob llinell yn ‘ddraig’ a’r person cyntaf yn y llinell yw pen y ddraig. Gwthiwch y sgarff, yn llac, i mewn i linyn gwasg trowsus y person ar ddiwedd y ddwy linell. Dyma’r gynffon. Gofynnwch i’r dreigiau wynebu ei gilydd, ond heb sefyll yn rhy agos. Bloeddiwch, ‘daliwch gynffon y ddraig’. Nawr, mae rhaid i’r dreigiau redeg o gwmpas - gyda’r bobl yn y dreigiau’n dal gafael ar ei gilydd - er mwyn i’r person ar y blaen (pen y ddraig) geisio dal cynffon y ddraig arall, ond heb i’w draig nhw chwalu. Helfa drysor fechan Fe allet ti gynnal helfa drysor yn rhywle fel parc, traeth neu ardd heb unrhyw waith paratoi ymlaen llaw. Meddwl am syniadau am ‘drysorau’ (gweler y syniadau isod) a’u hysgrifennu ar ddarnau o bapur – neu ddewis y rhain wrth fynd yn eich blaen. Gofyn i’r plant feddwl am syniadau. Gofyn i’r plant benderfynu os ydyn nhw am chwilio am y trysor fel unigolion, mewn parau neu fel timau. Gwna amser i holi am yr holl drysorau y daw’r plant o hyd iddyn nhw. Syniadau ar gyfer ‘trysorau’ y gallai’r plant chwilio amdanyn nhw: deilen ddisglair carreg lefn rhywbeth coch rhywbeth drewllyd rhywbeth sgleiniog rhywbeth sy’n dy wneud yn hapus rhywbeth sy’n dy atgoffa o dy wyliau. Gemau eraill sydd ddim angen offer (neu fawr ddim offer) Cuddio Simon says Osgoi’r bêl Canlyn camre Mam-gu Faint ydi o’r gloch, Mistar Blaidd? Cynghorion ar gyfer chwarae gemau grŵp Cofia gynnwys pawb Gofyn oes gan rywun arall gêm i’w rhannu gyda gweddill y grŵp. Os ydych chi’r tu allan, cofia: Barchu natur Edrych os oes baw cŵn, gwydr wedi torri neu unrhyw beryglon eraill ar y safle Penderfynu os oes cyfyngiadau ar ba mor bell y gall y plant grwydro - er enghraifft, ddim pellach na ffens, coeden neu dirnod penodol arall.