Sut i annog chwarae mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant Bydd plant yn treulio llawer o’u hamser yn yr ysgol neu mewn lleoliad gofal plant fel crèche, meithrinfa neu glwb ar ôl ysgol. Dylai ysgolion a lleoliadau gofal plant roi llawer o gyfleoedd i chwarae trwy gydol y dydd, bob dydd. Mewn gofal plant ac yn y blynyddoedd cyntaf yn yr ysgol, chwarae ydi’r prif ffordd y bydd plant yn treulio eu hamser. Dylai ysgolion roi llawer o gyfleoedd i blant o bob oed i chwarae yn ystod y dydd, bob dydd. Mae agwedd chwareus yn bwysig yn yr ystafell ddosbarth hefyd. Mae plant yn eu harddegau hefyd angen amser a lle i chwarae, ymlacio a chymdeithasu - cyn, yn ystod ac ar ôl y diwrnod ysgol. Meddylia am y cyfleoedd sydd gan dy blentyn i chwarae, ble bynnag y bydd yn treulio amser. Yw ysgol neu leoliad gofal plant dy blentyn yn ymddangos yn ddigon chwareus? Sut alli di ddweud - beth ddylet ti chwilio amdano? Beth sy’n arwyddion o ysgolion a gofal plant chwareus? Mae dy blentyn yn dod adre’n rheolaidd gyda hanesion am amserau chwarae yn llawn hwyl ac antur. Mae dy blentyn yn cael digon o amser i chwarae bob dydd. Mae’r plant yn cael eu hannog i chwarae’r tu allan ym mhob tywydd. Fydd y plant ddim yn cael eu gorfodi i wneud rhywbeth arall cyn cael caniatâd i chwarae - er enghraifft, gorffen gwaith cartref. Mae’r plant yn rhan o greu rheolau ar gyfer y maes chwarae – a ’does dim gormodedd o reolau. Mae’r plant i gyd yn cael eu cynnwys yn y chwarae. Mae’r maes chwarae neu’r gofod awyr agored yn edrych yn chwareus, ac nid yn berffaith - er enghraifft, efallai ei fod yn edrych braidd yn flêr, mae’n bosibl ei fod yn cynnwys ardaloedd gwyllt neu laswellt tal, efallai bod olion sialc ar lawr, mae’n bosibl y bydd yn newid o bryd i’w gilydd. Mae’r maes chwarae neu’r gofod awyr agored yn cynnwys pethau fel hen deiars neu focsys y gall y plant eu symud o gwmpas a chreu pethau gyda nhw pan maent yn chwarae. Mae’r maes chwarae neu’r gofod awyr agored yn cynnwys pethau naturiol i chwarae gyda nhw, fel cerrig crynion a phlanhigion. Fydd amser chwarae fyth yn cael ei atal fel cosb. Sut alli di annog ysgol neu leoliad gofal plant dy blentyn i fod yn fwy chwareus? Fel arfer, bydd ysgolion a lleoliadau gofal plant yn croesawu gwirfoddolwyr a chyfraniadau rhieni a gofalwyr. Os sylwi di ar arwyddion nad ydyn nhw mor chwareus ac y gallent fod (gweler y rhestr uchod), yna dyma rai ffyrdd y galli eu helpu i fod yn fwy chwareus. Dysgu mwy am chwarae Chwilia ar y rhyngrwyd am luniau o ardaloedd chwarae da Gofyn i’r plant am eu syniadau a’u meddyliau Trefna ymweliadau gydag ysgolion a lleoliadau gofal plant eraill i weld beth maen nhw’n ei wneud yn dda Ymchwilia i’r syniadau diweddaraf am chwarae, meysydd chwarae ac amserau chwarae (mae’r wefan yma’n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol) Dysga pwy all gynnig cymorth a chyngor yn lleol. Chwilio am ffyrdd i godi mater chwarae Cysyllta gyda dy ysgol neu leoliad gofal plant i ofyn a alli ddod i mewn i siarad gyda nhw am chwarae Ymuna â’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon a chodi mater chwarae yno Awgryma greu grŵp gwella maes chwarae neu amser chwarae Annog dy blentyn i ymuno â’r cyngor ysgol - mae gofyn i bob ysgol gynradd, ysgol uwchradd ac ysgol arbennig yng Nghymru gael un. Bod yn barod i wneud rhywbeth Dewis brosiectau bychan syml y galli eu trefnu – fel adeiladu pwll tywod Chwilia am ffyrdd i gynnwys y plant - er enghraifft, siarad gyda nhw am yr hyn yr hoffent ei newid yn yr ardal chwarae Dysga pa rieni sydd â sgiliau allai fod o gymorth – fel codi arian, gwaith coed, garddio Gofyn am gynigion o gymorth a chyfraniadau – a gwneud defnydd o bob un ohonynt Ymgeisia am ariannu – gall hyd yn oed symiau bychan helpu i wneud gwahaniaeth Llunia gynllun datblygu chwarae – a chynnwys nodau tymor byr, canolig a hir. Gall Sut i annog chwarae mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant gael eu hargraffu a’u rhannu – maen nhw’n wych ar gyfer helpu eraill i ddarganfod mwy am chwarae plant.