Traffig sy’n symud yn gyflym trwy ardaloedd preswyl yw un o’r peryglon mwyaf i blant. Mae plant yn dweud mai dyma’r prif beth sy’n eu stopio rhag chwarae’r tu allan.

Felly, gyda mwy a mwy o bobl yn berchen ac yn gyrru car, sut allwn ni wneud ein cymunedau lleol yn fwy diogel ar gyfer plant?

Newid ein harferion gyrru ein hunain

Pe bai pawb yn defnyddio llai ar eu ceir ac yn arafu wrth yrru’r car, byddai plant ac oedolion yn fwy diogel.

Lobïo ein cynrychiolwyr gwleidyddol

Siarad gyda chynghorau cymunedol, awdurdodau lleol, Aelodau o’r Cynulliad ac Aelodau Seneddol. Gall pethau fel croesfannau i gerddwyr, terfynau cyflymder is a chamau pwyllo traffig helpu i arafu traffig. Mae 20’s Plenty for Us yn cynnig cyngor ar ymgyrchu dros ardaloedd 20mya yn ein cymunedau.

Cynnwys y plant

Cael y plant i egluro pam ei fod yn bwysig – yn aml iawn, bydd oedolion yn gwrando arnyn nhw. Fe allan nhw ddylunio posteri’n gofyn i yrwyr arafu, a siarad gyda’r oedolion yn eu bywydau am sut y mae ceir yn difetha eu chwarae. Yn ogystal, gall gweld plant allan yn y gymuned wneud i yrwyr gymryd mwy o ofal.

Tynnu sylw at lwybrau cerdded a beicio diogel

Gall ein cynghorau lleol helpu gydag arwyddion a mapiau am y llwybrau cerdded a beicio diogel yn ein cymunedau er mwyn helpu plant – ac oedolion – i symud o gwmpas yn ddiogel.

Dysgu plant am ddiogelwch ffyrdd

Gall plant ddysgu am ddiogelwch ffyrdd o oed ifanc. Pan fyddwn ni’n cerdded gyda’n plant gallwn siarad gyda nhw am fannau diogel i groesi a chadw llygad am draffig sy’n dod. Bydd llawer o blant yn derbyn hyfforddiant diogelwch ffyrdd yn yr ysgol gynradd hefyd.