Mae llawer ohonom yn cofio cymaint y byddem yn mwynhau chwarae’n yr awyr agored pan oeddem yn blant. Ond heddiw mae pobl fel be baen nhw’n poeni am eu plant yn mynd allan, ac mae’n ymddangos bod llai o gyfleoedd i blant chwarae’r tu allan hefyd.

Mae chwarae’r tu allan yn bendant yr un mor bwysig heddiw ac y bu erioed.

  • Mae’n rhoi lle i blant redeg, dringo, rowlio, neidio, cuddio, a llosgi eu hegni
  • Mae’n golygu y gall plant chwarae gyda phethau naturiol fel dŵr, tywod, mwd, gwair, rhisgl a brigau. 
  • Mae’n hwyl i blant ddarganfod y byd naturiol, er enghraifft gweld pa greaduriaid ddaw allan mewn gwahanol dywydd.
  • Mae’n helpu plant i ddysgu am y tymhorau a’n tywydd hynod o amrywiol, trwy eu profi eu hunain.
  • Mae’n helpu plant i ddysgu sut i edrych ar eu hôl eu hunain - er enghraifft, sylweddoli pa mor llithrig yw rhew, a’r angen i yfed dŵr a gwisgo het pan mae’n heulog.
  • Mae’n helpu i ddatblygu synhwyrau plentyn - eu golwg, clyw, synnwyr arogl, cyffyrddiad a blâs.
  • Mae’n achosi llai o straen ac yn llai diflas i oedolion os yw plant yn swnllyd y tu allan, yn hytrach nac yn y tŷ.

Mae’n rhoi cyfle i blant weld sut beth yw newid eu hamgylchedd – tyllu, adeiladu cuddfannau mawr, creu cacennau mwd neu gestyll.

Mae pob plentyn yn elwa o gael cyfle i chwarae, a ’does dim rhaid i’r tywydd a chost eu hatal.

’Does dim angen i blant iach sy’n gwisgo’r dillad cywir adael i fymryn o law Cymru eu stopio rhag chwarae yn yr awyr agored.

’Does dim rhaid iti wario arian ar weithgareddau drud, neu deithio milltiroedd i hebrwng dy blentyn i faes chwarae penodol. Mae’r un mor werthfawr rhoi cyfleoedd rhad neu rad ac am ddim iddyn nhw chwarae yn eich cymuned.

Y peth pwysicaf yw dy fod yn gwneud chwarae’n rhan o fywyd bob dydd dy blentyn.