Mae’r pandemig coronafirws yn cael effaith ar blant o amgylch y byd. I gefnogi hawl plant i chwarae, mae’r International Play Association wedi datblygu adnoddau newydd I helpu rhieni a gofalwyr.

Mae’r adnoddau yn rhoi gwybodaeth a syniadau i rieni i gefnogi chwarae plant. Mae’r pynciau yn cynnwys pwysigrwydd chwarae mewn argyfwng a sut i ymateb i anghenion chwarae plant. Mae’r adnoddau hefyd yn cynnig gwybodaeth am sut i ddelio gyda materion sydd efallai yn achosi pryder i rieni, fel plant yn chwarae gyda themau anodd fel colled, marwolaeth ac unigedd. 

Yn ystod cyfnodau o argyfwng, mae chwarae yn helpu i roi ymdeimlad o normalrwydd a llawenydd i blant.

Mae pob adnodd ar gael i’w lawrlwytho a’u darllen*:

The importance of playing during a crisis

Supporting your child’s play during a crisis

Thinking about your child’s play

Play that involves difficult themes such as loss, illness and death

Managing play at home that feels noisy or destructive

Messy play at home

Things to play with around your home

Make the most of your time outside

Internet and screen-based activities and play … finding a balance

Playing when you cannot go outside your home.

Neu lawrlwytha’r adnoddau fel llyfryn.

 

* Datblygwyd yr adnoddau hyn gan yr International Play Association yn Saesneg yn unig