50 syniad chwarae dan do Wrth i ni barhau i dreulio mwy o amser yn ein cartref, efallai y bydd dy blant angen ychydig o help i benderfynu beth i’w chwarae. I helpu i ysbrydoli dy blant – a’r teulu cyfan – rydym wedi rhoi at ei gilydd rhestr o 50 syniad i’w chwarae gartref: Argraffu a phaentio gyda swigod Helfa pryfetach Adeiladu gwesty pryfetach Adeiladu tŵr mawr tal gyda phac o gardiau Adeiladu dy greadigaeth dy hun gyda blociau neu lego Gwersylla dan do neu yn yr ardd Gemau cardiau – snap, parau Charades / Give us a clue Dal dy gysgod Lliwio rhai o’n cartwnau Creu ffilm Creu pypedau cysgod Addasu hen ddillad i greu gwisgoedd newydd Gemau tynnu llun – ‘Pictionary’, gêm OXO, hangman Hwyl gyda balwnau – cadw’r balŵn oddi ar lawr, rasys gyda balwnau rhwng eich coesau, statig ar dy wallt, ceisio ei chael i lynu i’r wal gan ddefnyddio dim ond trydan statig Bod yn greadigol gyda thiwbiau papur toiled - creu anifeiliaid, rocedi Mynd ar helfa eirth dan do Rhoi tro ar jyglo Jenga (bydd yn greadigol - defnyddia focsys ‘Tupperware’, blychau gwag) Creu dalen-nodyn (bookmarker) ar gyfer y llyfr stori newydd – Hwyl yn yr ardd Creu hamog gyda chynfas gwely a bwrdd Creu trac rasio gyda thâp masgio Creu llyfr lloffion Creu tŵr o esgidiau Creu swigod Creu ‘radio’ tuniau a chortyn Creu dillad ar gyfer doli neu dedi bêr Creu gwe dal breuddwydion Creu lluniau argraffu gyda’r bysedd neu’r dwylo Creu pethau dweud ffortiwn o bapur Creu breichledi cyfeillgarwch Creu offerynnau cerdd gyda hen eitemau o’r tŷ Creu mygydau a chlogynnau arch-arwyr gyda hen gynfasau neu ddefnydd Gemau cofio / gemau cysylltu geiriau Cyfnewid cadeiriau cerddorol Delwau cerddorol Paentio wynebau eich gilydd Pasio’r parsel Rhoi cynffon ar yr asyn Chwarae tenis gyda balŵn / sanau wedi eu rholio’n bêl a phlatiau papur neu ddwylo Esgus bod yn anifeiliaid a chynnal gorymdaith sŵ neu jyngl (cerdded fel eliffant neu fwnci neu hwyaden neu ...) Creu gŵyl gerddorol ar gyfer y teulu Creu perfformiad pypedau Sardines Bowlio deg gyda hen boteli pop / sudd plastig Defnyddio tâp masgio i greu gemau ar lawr - nadroedd ac ysgolion, cwrs rhwystrau Defnyddio dy sanau i greu lluniau doniol neu i sillafu geiriau Argraffu gyda llysiau Pwy ydw i? Gêm ddyfalu (‘Post-it’ gydag enw person enwog ar dy dalcen) Gwe corryn / pry copyn gyda gwlân neu gortyn - ceisiwch ddringo trwyddo! I gyfri faint mae dy deulu wedi ei gwblhau lawrlwytha ac argraffa ein rhestr Oeddet ti’n gwybod bo ganddo ni restr arall o 35 syniad chwarae dan do? Rhowch dro ar rheini hefyd!