Mae plant yn cael eu cyfareddu gan dân. Yn y gorffennol, roedd yn rhan bob dydd o fywyd gan fod teuluoedd yn ei ddefnyddio i wresogi, goleuo a choginio. Heddiw, fydd llawer o blant ddim yn dod i gysylltiad â thân oni bai ein bod yn ei gyflwyno iddyn nhw’n fwriadol.

Mae’n braf eistedd allan o amgylch y tân neu oleuo ystafell gyda chanhwyllau. Er mwyn gwneud y pethau hyn yn ddiogel, bydd plant angen cyfle i ddysgu am dân - a’r ffordd orau i ddysgu yw trwy brofiad.

Pam mae hi’n bwysig cyflwyno tân i dy blentyn?

Galli helpu dy blentyn i:

  • fwynhau tân mewn ffordd ddiogel
  • dysgu am risgiau a pheryglon tân
  • bod yn barod i ddiffodd tân
  • gwybod beth i’w wneud os caiff ei losgi, neu os caiff rhywun arall eu llosgi
  • deall un o ffynonellau ynni’r ddaear.

Mae tân mor ddeniadol i blant a phlant yn eu harddegau fel eu bod yn debyg o fod awydd cynnau tanau rywbryd. Mae’n well iddyn nhw ddysgu’r elfennau sylfaenol yn ddiogel gyda thi, yn hytrach na’u bod yn chwarae â thân mewn sefyllfa fwy peryglus. Mae’n bwysig iddyn nhw wybod beth i’w wneud os aiff rhywbeth o le.

Sut i ddefnyddio matsis

Efallai y byddi’n meddwl os yw hi’n iawn i dy blentyn ddefnyddio matsis. Os dangosi di iddyn nhw sut i ddefnyddio matsis yn ddiogel, fe allan nhw ddatblygu gwybodaeth a sgiliau gwerthfawr. Fe fyddan nhw’n deall sut i ddefnyddio matsis yn briodol, fydd yn eu helpu i gadw’n ddiogel. Rydym yn argymell:

  • Dangos i dy blentyn sut i gynnau matsien draw oddi wrth ei hun, fel na fyddan nhw’n dod â’r fflam tuag at eu croen a’u dillad.
  • Dangos iddyn nhw sut i gadw’r fflam am i fyny fel na fydd yn llosgi eu bysedd.
  • Dewis rhywle diogel i ymarfer, fel na fydd ots os byddan nhw’n gollwng y fatsien - er enghraifft, ar lawr concrid yn hytrach na dros rywbeth allai ddeifio neu fynd ar dân.

Cyflwyno tân yn raddol

  • Cofia adael i dy blentyn deimlo’r cynhesrwydd ddaw o’r fflam trwy ddangos sut y mae’n cynhesu wrth iti nesu ati. Cofia ddweud pa mor bwysig yw peidio mynd yn rhy agos.
  • Gadael i dy blentyn ymarfer cynnau canhwyllau gyda matsis a’u chwythu i’w diffodd.
  • Dysga dy blentyn i beidio â rhedeg neu chwarae’n agos i’r tân.
  • Pan fyddwch chi wrth ymyl tân, cytunwch ar bellter diogel o’i amgylch na fydd unrhyw un yn ei groesi - oni bai eu bod yn gwneud rhywbeth ymarferol fel coginio neu roi coed ar y tân.
  • Dysga dy blentyn beth i’w wneud os bydd dy ddillad yn mynd ar dân. I ddiffodd y fflamau, dylet un ai roi cadach gwlyb dros y darn sydd ar dân neu orwedd ar y llawr a rholio yn ôl a blaen.

Ffyrdd hawdd i gyflwyno tân i dy blentyn

Canhwyllau mawr a bach

Mae goleuo ystafell gyda chanhwyllau neu osod canhwyllau ar y bwrdd ar gyfer pryd arbennig yn newid yr awyrgylch yn syth. Fe allet ti geisio rhoi canhwyllau bach mewn jariau jam rhag i’r gwynt eu diffodd. Mae eu gosod ar soser neu blât yn syniad da i ddal unrhyw ddiferion o gŵyr.

Cofia bob amser i

  • Oruchwylio plant bach o amgylch canhwyllau.
  • Cadw matsis yn ddiogel, fel na all plant bach chwarae gyda nhw heb oruchwyliaeth.
  • Diffodd canhwyllau wedi ichi orffen gyda nhw, yn hytrach na gadael iddyn nhw losgi’n isel.
  • Gwneud yn siŵr bod canhwyllau mawr a bach ar arwyneb diogel fydd ddim yn mynd ar dân.

Tân gwersyll bychan  

Os oes gennych chi ardd neu os byddwch yn ymweld â rhywle fel y traeth, fe allet ti greu tân gwersyll bychan gyda’r plant. Mae hwn yn gyfle i ddangos iddyn nhw sut i adeiladu, cynnau a diffodd tân.

Mae powliau neu fasgedi tân yn boblogaidd. Mae’r rhain yn cyfyngu maint y tân ac yn ei atal rhag lledaenu. Fe allet ti brynu un o archfarchnad neu ganolfan arddio.

Cofia bob amser i

  • Gadw’r tân yn fychan ac o dan reolaeth.
  • Cadw bwcedaid o ddŵr a chadach gwlyb wrth law rhag ofn bydd argyfwng.
  • PEIDIO rhoi pethau plastig, olew neu erosolau, fel caniau chwistrellu, ar y tân.
  • Cadw llygad am arwyddion sy’n dweud na ddylid cynnau tanau.
  • Parchu’r amgylchedd a gwneud yn siŵr na fydd cynnau tân yn achosi difrod.

Os nad wyt ti’n siŵr os yw hi’n ddiogel i gynnau tân, paid â’i gynnau.

Tân mewn lle tân

Wyt ti’n adnabod rhywun sydd â thân agored yn eu tŷ? Fe allet ti ofyn iddyn nhw os bydden nhw’n fodlon dangos i dy blentyn sut i osod y tân a’i gynnau. Unwaith i’r tân gael ei gynnau, cymerwch eich amser i fwynhau eistedd o’i flaen a sgwrsio ger y tân.