Mae plant eisiau - ac angen - rhywfaint o risg yn eu chwarae. Wyt i’n cofio neidio oddi ar risiau uwch ac uwch? Troelli rownd a rownd gyda ffrind tan ichi gwympo ar lawr? Dringo coed? Balansio a cherdded ar hyd waliau uchel? Chwarae ymladd?

Mae’r math yma o chwarae’n helpu plant i dyfu’n wydn yn emosiynol ac yn gorfforol. Mae’n eu helpu i ymateb yn hyblyg i sefyllfaoedd anodd neu newidiol yn eu bywydau. Yn hytrach na’u rhoi mewn perygl, mae’n cynyddu eu hyder ac yn datblygu potensial eu hymennydd i ddelio gyda beth bynnag y bydd bywyd yn ei daflu atynt. Bydd buddiannau’r gwytnwch a’r hyblygrwydd yma’n para trwy eu hoes, a gall eu cadw’n fwy diogel yn y tymor hir.

Ffyrdd i gefnogi angen dy blentyn i fwynhau chwarae’n llawn risg

Dylet gwestiynu a herio’r diwylliant ‘gwahardd chwarae concyrs’

Ydyn ni ei angen mewn gwirionedd?

Cofia y bydd damweiniau’n digwydd

Mae’n amhosibl iti wneud dy blentyn yn gwbl ddiogel - ac weithiau, gall damweiniau ddysgu plant sut i ofalu am eu hunain.

Gadael i dy blentyn lunio eu barn eu hunain

Gadael iddyn nhw benderfynu os ydyn nhw’n abl i wneud rhywbeth, neu os ydyn nhw’n ddiogel. Dylet ymddiried yn eu barn oni bai y gallai’r canlyniadau fod yn beryg’ bywyd.

Meddylia cyn dweud na

Bydd dy blentyn yn chwilio am weithgareddau heriol oherwydd eu bod angen gwneud hynny. Bydd angen iti ddefnyddio dy synnwyr cyffredin a phwyso a mesur os yw hi’n hanfodol iti ddweud na - neu os wyt ti wedi mynd i’r arfer o ddweud na .

Defnyddia agwedd synnwyr cyffredin

Galli niweidio dy blentyn trwy fod yn orofalus, neu achosi iddynt fod ofn sefyllfaoedd neu bobl eraill. Mae angen iddyn nhw wybod sut i gadw eu hunain yn ddiogel, ond mae angen iddyn nhw ddatblygu’r hyder i ymlwybro’n annibynnol trwy’r byd, hefyd.

Pwysa a mesur os yw budd chwarae heriol neu chwarae sy’n peri ofn yn fwy na’r potensial i ddioddef niwed

Gall chwarae heriol fod yn dda i dy blentyn, felly meddylia pa mor debygol y maent o gael eu hanafu - a defnyddia hyn i dy helpu i benderfynu beth i’w wneud neu ei ddweud.

Cofia bod dy blentyn (yn ystadegol) mewn mwy o berygl yn eich cartref

Mae ystadegau am ddamweiniau’n dangos bod plant yn fwy tebygol o gael eu hanafu yn eu cartrefi eu hunain na’r tu allan ar feysydd chwarae neu yn y coed. Mae’n werth cofio hyn.