Sut i ddelio gyda dy blentyn yn chwarae gydag arfau Mae’n ymddangos fel bod plant yn gallu creu arfau - nid dim ond gynnau ond bwa a saeth, grenadau, sabrau golau, machetes a bomiau - allan o bron a bod unrhyw beth. Byddant yn eu creu allan o frigau, cardbord, peli, llysiau a hyd yn oed eu dwylo. Efallai y bydd plant yn eu harddegau’n hoffi cymryd rhan mewn gemau fel saethu peli-paent neu ail-greu brwydron. Buddiannau chwarae gydag arfau Mae aml i theori pam fod plant a phlant yn eu harddegau’n hoffi chwarae gydag arfau. Mae’r rhain yn cynnwys: Rhoi tro ar wahanol rolau - sut deimlad yw bod yn arwr, bod yn bwerus, ennill neu golli? Archwilio cwestiynau ‘beth pe bae’ mawr – beth pe bae gen i arf? Beth pe bawn i mewn perygl? Beth pe bawn i’n ddyn da neu’n ddyn drwg? Gwneud synnwyr o’r hyn y maent yn ei glywed a’i weld - adroddiadau ar y newyddion o wledydd ble mae rhyfel, neu wrthdaro bywyd go iawn. Chwarae er mwyn gweithio trwy rywbeth sy’n peri pryder iddyn nhw, er mwyn ei wneud yn llai ofnus. Chwarae gyda gofod ffisegol - symud o amgylch, ennill tiriogaeth, archwilio terfynau’r amgylchedd. Archwilio sut y gallai pobl ymddwyn ac ymateb mewn gwahanol sefyllfaoedd. Dysgu am gyfathrebu. Mae rhai pobl yn awgrymu bod plant sy’n chwarae gydag arfau’n arddangos greddfau dynol hynafol i hela a gwarchod. Pethau allai bryderu rhieni Os wyt ti’n ansicr sut i ymateb i dy blentyn yn chwarae gydag arfau tegan neu ddychmygol, ’dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Mae llawer o rieni’n teimlo’r un fath, yn enwedig am ynnau tegan. Efallai y byddi’n poeni os yw hi’n iawn gadael iddyn nhw chwarae fel hyn. Efallai y byddi’n poeni os bydd chwarae gydag arfau’n annog dy blentyn i dyfu’n oedolyn treisgar. Efallai y byddi’n meddwl os yw’n bosibl iti eu stopio. Mae tystiolaeth yn awgrymu na fydd chwarae gydag arfau - teganau, rhai dychmygol neu rai wedi eu creu gartref - yn troi plant yn oedolion treisgar. Awgrymiadau ar gyfer delio gyda dy bryderon Gwylia beth fydd yn digwydd - oes rhywun yn cael ei anafu neu ei fwlian mewn gwirionedd, neu ydi pawb sy’n rhan o’r gêm yn mwynhau eu hunain? Gwranda ar yr hyn y mae dy blentyn yn ei ddweud am chwarae gydag arfau a gweld sut y maen nhw’n teimlo. Gall hyn dy helpu i ddeall beth mae’r chwarae’n ei olygu iddyn nhw. Meddylia beth wyt ti’n teimlo’n gyfforddus ag o a pham hynny. Er enghraifft: Gefaist ti chwarae gydag arfau tegan pan oeddet ti’n tyfu i fyny? Wyt ti’n ofni y bydd chwarae gydag arfau’n gwneud dy blentyn yn dreisgar? Wyt ti’n hapus i dy blentyn chwarae gydag arfau dychmygol? Sut wyt ti’n teimlo am deganau neu arfau realistig y mae dy blentyn wedi eu creu? Meddylia sut y mae pobl eraill wedi ymateb i dy blentyn yn chwarae gydag arfau. Yw rhai ohonyn nhw wedi ymuno yn y chwarae - er enghraifft, trwy riddfan mewn poen a chreu golygfeydd o farwolaethau dramatig? Oes eraill wedi twt-twtian neu ddweud ‘Paid â gwneud hynna’? Pa wahaniaeth mae hynny’n ei wneud i sut yr wyt ti’n teimlo? Gall Sut i ddelio gyda dy blentyn yn chwarae gydag arfau gael eu hargraffu a’u rhannu – maen nhw’n wych ar gyfer helpu eraill i ddarganfod mwy am chwarae plant.