Sut i ddelio gyda chwarae adeiladu a chwalu Mae’r rhan fwyaf ohonom yn mwynhau gwylio ein plentyn yn creu pethau wrth chwarae. Ond weithiau fe fyddan nhw’n dinistrio’r pethau y maent wedi eu creu ac fe allwn deimlo’n rhwystredig o ganlyniad. Mae adeiladu a chwalu’n ffyrdd normal o chwarae. Enghraifft dda yw chwarae ar y traeth – mae adeiladu castell tywod yn hwyl, ond mae’n hwyl hefyd i neidio arno wedyn a’i sathru’n fflat. Enghraifft dda arall yw adeiladu tân: mae’n wych i’w adeiladu, ond yr holl bwynt yw ei roi ar dân a gadael iddo losgi tan fod dim ar ôl. Pan fydd dy blentyn yn chwarae, bydd yn aml yn cynnwys arbrofi gyda llawer o ddeunyddiau i greu rhywbeth. I dy blentyn, yn aml iawn nid y cynnyrch terfynol fydd y prif nod. Mae’r hwyl i’w gael yn y broses o greu a gwneud. Gall chwarae adeiladu fod yn fawr neu’n fach, er enghraifft: Bach – creu cadwyn flodau neu fodel o jync Mawr – creu cuddfan neu gwrs rhwystrau. Gall chwalu gynnwys: Malu bocsys cardbord Socian rhywbeth mewn dŵr tan iddo gwympo’n ddarnau Claddu pethau Rhoi rhywbeth ar dân Torri rhywbeth yn ddarnau mân. Buddiannau chwarae adeiladu a chwalu Maen nhw’n gysylltiedig â chwilfrydedd plant a datrys problemau. Maen nhw’n helpu plant i ddeall eu hamgylchedd. Maen nhw’n caniatáu i blant deimlo eu grym eu hunain i greu pethau a hefyd i’w dinistrio. Maen nhw’n helpu plant i ddeall bod ganddyn nhw berthynas gyda phethau a gyda’r bywyd sy’n digwydd o’u hamgylch. Fe allan nhw helpu plant i ryddhau eu hemosiynau mewn ffordd ddiogel - er enghraifft, dicter neu rwystredigaeth. Pethau allai bryderu rhieni Gall fod yn annifyr gweld dy blentyn yn sgriblo dros lun hyfryd neu’n malu rhywbeth y mae wedi ei greu. Awgrymiadau ar gyfer delio gyda’r math yma o chwarae Cofia bod hyn yn rhan o broses ddysgu rymus i dy blentyn - efallai y gwnaiff hyn dy helpu i adael i’r peth basio. Mae’n iawn inni achub gwaith celf weithiau - er enghraifft, pan fyddet ti wir yn hoffi ei gadw i’w arddangos neu ei drysori. Mae stwff sydd gen ti o amgylch y tŷ a’r ardd yn dda ar gyfer y math yma o chwarae - er enghraifft, jync a deunyddiau crefft syml. Mae’n bosibl y gwnei di benderfynu, yn dibynnu ar oed dy blentyn a’r hyn yr wyt yn gwybod am eu doniau, i gadw llygad agos arnyn nhw neu dy fod am eu goruchwylio o bellter. Gall Sut i ddelio gyda chwarae adeiladu a chwalu gael eu hargraffu a’u rhannu – maen nhw’n wych ar gyfer helpu eraill i ddarganfod mwy am chwarae plant.