Sut i ddelio gyda dringo a balansio Bydd bron pob plentyn yn dringo a balansio ar bethau fel rhan o’u chwarae. Mae rhai plant fel pe baen nhw am ddringo ar bopeth o fewn golwg. Gall dringo a balansio ddigwydd ym mhobman bron. Gall fod yn rhan hwyliog o fynd am dro gyda dy blentyn, yn enwedig pan maen nhw’n iau. Yn aml, bydd plant iau yn mwynhau balansio ar foncyffion a dringo i ben waliau y gallant gerdded ar eu hyd. Mae coed, meysydd chwarae, canolfannau antur a waliau dringo i gyd yn cynnig gwahanol gyfleoedd ar gyfer dringo. Bydd ambell blentyn yn chwilio am bob cyfle i ddringo’n eithaf uchel ac mae’n ymddangos eu bod yn mwynhau’r ymdeimlad o risg a her. Neu efallai y byddant yn mwynhau dringo’n uchel ac yna ymlacio, gan edrych i lawr o gangen coeden neu lwyfan uchel. Buddiannau dringo a balansio Bydd dy blentyn yn cael budd o ddringo a balansio mewn pob math o ffyrdd: Datblygu sgiliau corfforol - fel ystwythder, balans, hyblygrwydd a chryfder Dysgu am eu doniau eu hunain Herio eu hunain Dysgu i fesur risg Dysgu am yr amgylchedd. Pethau allai bryderu rhieni Pan fydd plant yn cymryd risg maen nhw, fel arfer, yn dda am weithio allan yr hyn y gallan nhw ei reoli. Dydyn nhw ddim am anafu eu hunain. Ond mae’n bosibl y byddi’n dal i feddwl os gallan nhw gwympo a beth ddylet ti ei wneud. Awgrymiadau ar gyfer delio gyda dy bryderon Ceisia ymddiried yn synnwyr cyffredin dy blentyn am yr hyn y gallant neu na allant ymdopi ag o. Cymer anadl ddofn cyn ymateb. Dylet osgoi bloeddio ‘Bydd yn ofalus!’ Bydd yn ymwybodol o bethau na all dy blentyn, efallai, eu barnu drostynt eu hunain. Er enghraifft: Wrth ddringo wal, efallai na allan nhw weld os oes disgynfa fawr yr ochr draw Wrth ddringo coeden, efallai na wnânt sylwi ar ganghennau sy’n marw neu’n pydru ac allai dorri - maen nhw angen canghennau all ddal eu pwysau. Os bydd dy blentyn angen help neu’n mynd yn sownd wrth ddringo neu falansio, mae rhai ffyrdd defnyddiol y galli helpu: Annog dy blentyn i chwilio am leoedd diogel ar gyfer eu traed a’u dwylo. Cynghora dy blentyn i gymryd eu hamser a dod i lawr gam ar y tro. Awgryma iddynt ddefnyddio’r un llwybr i ddod i lawr ag y gwnaethant i ddringo i fyny. Cofia eu hatgoffa nad ydi hyn yn gystadleuaeth. ’Does dim angen iddyn nhw fynd yn uwch nac yn gyflymach nag unrhyw un arall - ddylen nhw ond gwneud yr hyn sy’n teimlo’n gyfforddus iddyn nhw. Gall Sut i ddelio gyda dringo a balansio gael eu hargraffu a’u rhannu – maen nhw’n wych ar gyfer helpu eraill i ddarganfod mwy am chwarae plant.