Yn aml, gelwir chwarae sy’n cynnwys rholio ar lawr, cosi a chyswllt corfforol yn ‘chwarae gwyllt.’

Galli adnabod chwarae ymladd a chwarae gwyllt trwy sŵn chwerthin, gwichian hapus a thrwy’r mynegiant ar wynebau’r plant. Mae ymladd go iawn yn edrych ac yn swnio’n wahanol. Fydd chwarae ymladd a chwarae gwyllt ddim yn cynnwys anafu’n fwriadol.

Efallai y bydd dy blentyn yn cymryd rhan mewn chwarae gwyllt a chwarae ymladd gyda phlant eraill. Neu efallai y byddant yn chwarae fel hyn gyda thi neu gydag oedolion eraill y maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw. Mae chwarae gwyllt yn cynnwys siglo plant gerfydd eu breichiau wrth ichi gerdded neu chwarae tic hefyd.

Buddiannau chwarae ymladd a chwarae gwyllt

  • Dyma un o’r ffyrdd y byddwn yn creu cyswllt gyda’n plant.
  • Maen nhw’n helpu plant i ddysgu am eu cryfder eu hunain.
  • Maen nhw’n helpu plant i ddatblygu ymwybyddiaeth o’u cyrff eu hunain.
  • Maen nhw’n caniatáu i blant ddatblygu dealltwriaeth o fynegiant wyneb a theimladau pobl eraill.
  • Maen nhw’n un o’r ffyrdd y bydd plant yn creu cysylltiad gyda’i gilydd.
  • Maen nhw’n helpu plant i ddysgu i ymddiried mewn pobl eraill.
  • Maen nhw’n hwyl, yn fywiog ac yn gyffrous.

Pethau allai bryderu rhieni

Weithiau, gall chwarae ymladd a chwarae gwyllt ein gwneud yn nerfus. Efallai y byddwn yn poeni beth os bydd o’n troi’n ymladd go iawn, beth os caiff rhywun ei frifo, os caiff rhywbeth ei dorri, neu beth fydd pobl eraill yn ei feddwl.

Awgrymiadau ar gyfer delio gyda dy bryderon

  • Pur anaml y bydd chwarae ymladd a chwarae gwyllt yn troi’n ymladd go iawn. Bydd y plant yn dysgu cymryd cam yn ôl, rhoi’r gorau iddi, neu cyfenwid rôl - er enghraifft y person sy’n cael ei gwrso’n cymryd tro i redeg ar ôl rhywun arall.
  • Mae’n bosibl y caiff rhywun glais neu grafiad. ’Dyw hyn ddim yn golygu bod problem – fe wnei sylwi weithiau y bydd plant yn chwerthin wrth weiddi ‘aw!’. Mae cleisiau a chrafiadau bychain yn rhan o sut y bydd dy blentyn yn dysgu a datblygu wrth iddyn nhw dyfu i fyny.
  • Os yw dy blentyn yn chwarae ymladd neu’n chwarae gemau gwyllt gartref, cofia eu hatgoffa i feddwl am eu hamgylchiadau. Gofyn iddyn nhw feddwl am bethau allai fod wedi achosi damweiniau o’r blaen - er enghraifft, a ddylen nhw symud y bwrdd bach gyda’r ymylon miniog cyn dechrau reslo?
  • Gwna bethau’n fwy diogel i dy blentyn ac i’r tŷ - er enghraifft, symud unrhyw beth allai dorri, a rhoi duvet ar lawr i reslo arno.
  • Gwna’r un fath y tu allan. Chwilia am unrhyw beth peryglus - fel gwydr wedi torri neu bethau y gallai dy blentyn daro eu pen yn eu herbyn.
  • Efallai na fydd pobl eraill yn deall bod plant angen y math yma o chwarae. Dyma rai strategaethau y gallet roi tro arnyn nhw os gweli wynebau beirniadol:
    • Dal eu llygad, gwena a dweud rhywbeth fel ‘Ond ydi hi’n wych bod y plant yn gallu chwarae fel hyn? Maen nhw’n dysgu cymaint.’
    • Ceisia eu hanwybyddu – mae dy blentyn angen chwarae.
    • Gosod esiampl trwy gadw llygad ar dy blentyn ond peidio ymyrryd oni bai bod rhaid.
    • Tynna sylw’r oedolyn arall trwy sgwrsio gyda nhw.

Gall Sut i ddelio gyda chwarae ymladd a chwarae gwyllt gael eu hargraffu a’u rhannu – maen nhw’n wych ar gyfer helpu eraill i ddarganfod mwy am chwarae plant.