Mae dy gartref yn lle gwych i chwarae, yn enwedig pan fo’r tywydd yn stormus neu pan mae’n rhy dywyll i fod y tu allan. Bydd dy blentyn yn gwneud defnydd creadigol o’r gofod sydd ar gael - cornel o ystafell hyd yn oed - os oes ganddyn nhw ychydig o deganau, tameidiau a phethau eraill, a’r rhyddid i chwarae.

Fydd nifer o syniadau hwyliog ddim angen llawer o le, yn cynnwys hen ffefrynnau fel chwarae cuddio, ac adeiladu cuddfan gyda chlustogau a blancedi. Gellir defnyddio pob math o bethau a geir yn y cartref ar gyfer chwarae - gall clustogau fod yn gerrig sarn, gall blanced dros fwrdd droi’n guddfan sydyn, a gellir troi bocsys cardbord yn geir, cestyll neu longau gofod.

Delio gyda sŵn a llanast

Mae’n normal i blant fod yn swnllyd a chreu llanast wrth chwarae.

Mae sŵn yn arwydd da bod plant yn cyfathrebu a rhyngweithio. Os yw’r sŵn wir yn broblem, galli awgrymu iddyn nhw symud i rywle arall ble y bydd ganddynt fwy o ryddid i fod yn nhw eu hunain heb fod angen bod mor ddistaw, fel eu hystafell wely. Efallai yr hoffet awgrymu gweithgareddau tawelach, er enghraifft ‘Mi welaf i, â’m llygad bach i’.

’Does dim rhaid i lanast fod yn broblem. Ceisia ei anwybyddu tra bo’r plant yn chwarae, ac yna galli droi tacluso’n gêm.